Un sy'n hanu'n wreiddiol o Goginan yw Mr Davies ond fe symudodd i dref Aberteifi pan oedd yn 15 mlwydd oed. Wedi graddio fe ddilynodd gwrs addysg ôl radd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth cyn dechrau ar ei yrfa fel athro ysgolion gynradd. Mae ganddo ryw wyth mlynedd o brofiad dysgu, pump ohonynt yn Ysgol Gynradd Llandysul lle'i dyrchafwyd yn ddirprwy bennaeth ac uwch reolwr cyn symud ymlaen i swydd Pennaeth Ysgol Brynherbert, Llanrhystud. Pan alwodd gohebydd Papur Pawb i'w weld ar ddechrau ei ail wythnos yn ei swydd newydd edrychai'r gartrefol iawn ond doedd hynny'n fawr o syndod gan ei fod eisoes yn gyfarwydd iawn â'r ysgol, y staff a theuloedd llawer iawn o'r plant. Eglurodd iddo dreulio 6 wythnos yn yr Ysgol fel rhan o'i Ymarfer Dysgu ac yn Ysgol Llangynfelyn y treuliodd ei flwyddyn gyntaf fel athro cyflogedig. Roedd ei apwyntiad i fod yn Bennaeth Ysgol Llangynfelyn felly fel dychwelyd i'w hen gartref.Serch hynny maen credu bod y swydd yn un heriol oherwydd safon uchel yr addysg a gynigir eisoes ac felly ei ddymuniad pennaf yw cynnal y safonau hynny. Estynnwn ein dymuniadau gorau iddo ef ac i'r ysgol ar ddechrau'r cyfnod newyddhwn yn eu hanes.
|