Roedd llawenydd mawr ymhlith pobl ifanc Llangynfelyn pan ail gychwynnodd y Clwb Ieuenctid ym mis Chwefror. Gorfodwyd i'r Clwb gau sbel yn ôl oherwydd cyflwr y ffens y tu ôl i'r Llanfach a phryderon ynglŷn â diogelwch. Ers hynny mae rhwng ugain a phump ar hugain o blant wedi dod ynghŷd i ddefnyddio'r cyfleusterau yn y Llanfach megis Bwrdd Pŵl, offer Tenis Bwrdd a phêl-droed bwrdd, matiau dawns ac yn y blaen, yn ogystal â mwynhau gweithdai gemwaith, creu baneri a chrysau T. Yn ystod yr haf bydd Diwrnod Chwaraeon, ond bydd yr adeilad ei hun ar gau o ddechrau Mehefin tan fis Medi. Cafwyd grantiau gan y Loteri Cenedlaethol a'r Cyngor, a bydd gwaith cynnal a chadw yn digwydd dros yr haf, megis gosod gwres canolog, cwrs damprwydd, llawr a drysau. Ar ôl cwblhau y gwaith hyn bydd llenni newydd hefyd yn cael eu gosod. Gwneir cais arbennig am wirfoddolwyr newydd i gynorthwyo gyda'r Clwb pan fydd yn ail agor ym mis Medi. Gobaith y trefnwyr, hefyd, yw y bydd y gymuned gyfan yn gwneud defnydd llawn o'r adeilad. Erthygl gan M.L.
|