Ymhen blwyddyn fe fydd Gwasg y Lolfa yn dathlu ei phenblwydd yn 40 mlwydd oed. Ond tybed faint o drigolion yr ardal sy'n ymwybodol nad dyma'r fenter gyhoeddi gyntaf i ddeillio o Dal-y-bont?
Un cystadleuydd posib am y anrhydedd honno yw'r Parch Robert Jones (Trebor Aled) a gyhoeddodd lyfr ar ei liwt ei hun mor bell yn ôl â 1908, sef ddetholiad o'i gerddi mewn cyfrol swmpus 200 tudalen ('Pleser a Phoen'; sef casgliad o gerddi yn y llon a'r lleddf ) a hynny tra oedd yn weinidog Capel Tabernacl. Wrth gwrs, doedd dim gwasg i'w chael ym Mans y Tabernacl a thalodd Trebor Aled i'r gwaith gael ei anfon at wasg 'Y Cymro' yn Yr Wyddgrug.
Yn y cyfnod dan sylw roedd
hi'n beth eithaf cyffredin i awduron gyhoeddi eu gwaith eu hunain ac yn yr un modd roedd hi'n arferiad pur gyffredin i awdur gasglu enwau tanysgrifwyr cyn mentro
cyhoeddi. Mae hyn hefyd yn wir am 'Pleser a Phoen' oherwydd yng nghefn y gyfrol mae rhestr o dros 130 o danysgrifwyr. Wrth bori drwy'r rhestr hon mae'n ddiddorol sylwi pwy yw'r tanysgrifwyr hyn. O gofio mai brodor o Lansannan oedd Trebor Aled nid yw'n syndod bod yn agos i chwarter o'r tanysgrifwyr yn hannu o Lansannan neu'r cyffiniau, a gan ei fod yn byw yn Nhal-y-bont pan gyhoeddwyd y llyfr nid yw'n syndod chwaith bod y tanysgrifwyr lleol hefyd yn niferus / 16).
Ymhlith y tanysgrifwyr hyn roedd D.J. Arter, Bon Marche, Tre'rddol, David Evans, Penpompren a'r Parchg David Evans, Y Mans, W T Evans, Bryn Gryffdy, R.T. Griffiths, Melin Talybont, Dr John James, Y Fagwyr, Miss H.M. Jones, Ysgol Eglwysfach, Richard Jones, Golden Key a Richard Jones, 1, Birkenhead Street, E.J. Owen, Allt Goch, Owen David Owen, Berthlwyd, Richard Philips, Llwynglas ac Evan
Williams, Birkenhead Street.
Hefyd ymhlith y tanysgrifwyr roedd Thomas Richards, Ynys Tudur (Dr Tom, Hanesydd a Prif Lyf Coleg Prifysgol Bangor yn ddiweddarach) a Richard Morgan, brodor o'r pentref a oedd erbyn 1908 yn ysgolfe Llanarmon yn Iâl. O gofio i Trebor Aled dreulio cyfnod fel gwerthwr llyfrau i gwmni cyhoeddi cyn troi at y Weinidogaeth nid yw'n syndod bod ganddo danysgrifwyr ledled Cymru, Glannau Mersi, Llundain a mannau eraill yn Lloegr. Anfonwyd o leiaf 3 copi at danysgrifiwyr tramor (yn Yr Almaen, Yr Unol Daleithiau a Colombia).
Tybed a oes unrhyw un o ddarllenwyr Papur
Pawb yn gwybod a oes copi y tanysgrifiwyd iddo'n lleol wedi goroesi? Un sydd â chopi o'r gyfrol ers rhyw ugain mlynedd yw John
Evans Bryn y Wawr. Cafodd John y llyfr yn rhodd gan gymydog iddo, Meg Despard, Brynfa, am ei fod yn ymddiddori mewn llyfrau. Ond nid yw'r copi hwn ymhlith y rhai y tanysgrifiwyd iddo
gan fod yr awdur wedi sgwennu ynddo mewn llawysgrif ddestlus, 'Oddiwrth yr awdur
Mehefin 17, 1910' sef dwy flynedd wedi iddo
gael ei gyhoeddi. Awgryma hyn mai rhodd oedd y copi hwn a hynny mae'n debyg i
Annie Frances, Pontygeifr gan fod ei henw
hithau wedi ei sgwennu ar yr un dudalen.
Pan
ymddangosodd peth o hanes y Parch Robert Jones yn rhifyn
Chwefror 2006 o Papur Pawb fe sylweddolodd John bod
cysylltiad rhwng y llyfr oedd yn ei feddiant a'r cerrig beddau
teuluol yng nghefn y mynwent y Tabernacl yr oedd yn
gyfarwydd â nhw gan ei fod wedi bod wrthi droeon yn clirio'r
fynwent. Trwy gyd-ddigwyddiad ffodus pan dalodd Mrs Menna Jones, Henllan ger Dinbych, sef nith i Trebor Aled â bedd ei hewythr am y tro cyntaf yn ystod yr haf llynedd fe'i gwelwyd gan John a chafodd Mrs Jones weld bod o leiaf un copi o lyfr Trebor Aled wedi aros o fewn y pentref a hynny lai na chanllath i'r man y'i cyhoeddwyd yn agos i gan mlynedd yn ôl.