Roedd yn ddiwrnod braidd yn oer a gwyntog ond yn ddigon addas i dreialon - yn llawr gwell, yn wir, na thywydd crasboeth Gorffennaf.
Cafwyd y rhediad cyntaf ychydig wedi 7.30 y bore a'r olaf ychydig cyn saith o'r gloch yr hwyr. Doedd y defaid ddim yn rhy anodd i'w trafod ond roedd yn anodd cael ambell gi i groesi'r clawdd i'r cae pellaf a'r defaid yn tueddu i gymryd llwybr am y bwlch rhwng y ddau gae.
Ar ddiwedd y dydd diolchodd y cadeirydd, Enoc Jenkins, i Hywel a Luned am fenthyg y caeau a'r defaid i'r treialon ac i'r beirniad, Mr. Irwel Evans, Pentre Gwnnws, Tyngraig, Ystrad Meurig. Yna wedi diolch i'r llywyddion, Mr a Mrs John Hughes, Pencwm, gwahoddodd hwy i rannu'r gwobrau.
Enillwyd y cawg rhosynnau, er cof am Richard Edwards, Lletyllwyd, am rediad gorau'r dydd gan Eirian Morgan a'i gi Fred. Ef hefyd enillodd y dosbarth dull cenedlaethol. Fel y llynedd, Islwyn Jones a'i ast, Gael, enillodd y wobr er cof am Mary Edwards a Jenkin Morris, am y rhediad orau cyn hanner dydd. Ef hefyd enillodd y cwpan, rhoddedig gan y diweddar Iona Rowlands er cof am ei brawd, Evan Hopkins, am y rhediad orau yn y dull De Cymru.
Enillydd y dosbarth cyfyngedig i Geredigion a'r cwpan rhoddedig gan y diweddar Ken Jones er cof am D. J. Williams Cynnull Mawr, oedd John Price a'i gi Ben. Erwyd Howells a'i gi Black enillodd y dosbarth nofis yn y dull cenedlaethol a Martha Morgan a Becs y nofis yn y dull De Cymru. Erwyd Howells hefyd enillodd y gystadleuaeth leol a gynhaliwyd ar y nos Fawrth.
Cynhaliwyd cystadlaethau cneifio yn hwyr y prynhawn gydag Emyr Davies, Llety Ifan Hen, yn beirniadu. Y canlyniadau oedd: Cneifio â gwellau: 1. Ken Evans,
Coedgruffydd; 2. Dafydd Jenkins, Tanrallt; 3. Enoc Jenkins; Tyngraig. Cneifio peiriant - agored: 1, Dilwyn Evans, Tynant; 2, Enoc Jenkins; 3, Rhydian Evans, Tynant. Cneifio - aelodau C.Ff.I: 1. Rhydian Evans; 2. Elgan Evans, Tynant; Cneifio - C.Ff.I dan 21: 1. Elgan Evans; 2. Sion Evans, Neuadd Fawr.
Cafwyd diwrnod llwyddiannus unwaith eto eleni, ond gyda'r treialon cenedlaethol Cymru yn dechrau yn fore trannoeth yn ardal Y Wyddgrug, daeth llai o gystadleuwyr na'r llynedd i Dalybont.