Y brîff oedd creu darn o waith cyhoeddus (nad oedd yn barhaol) i'w osod ar y wal y tu allan i'r Morlan. Ariannwyd y prosiect gan grant loteri, a chafodd ei gwblhau ar gyfer y Pasg.
Yn ogystal â defnyddio thema'r Pasg o fywyd newydd, a symboliaeth y gwanwyn (golau, gobaith, tyfiant) cynigiwyd hefyd bod y gwaith yn tynnu sylw at y ffaith fod 2007 yn nodi dau gan mlwyddiant y mesur seneddol i ddileu'r fasnach gaethweision.
Yn y sesiynau agoriadaol, cyfeiriodd Ruth at y murlun a grewyd ganddi yn Nhal-y-bont, gan esbonio'n fanwl y broses o'i greu, yna - mewn sesiynau ar y cyd gyda'r Parch. Pryderi Llwyd Jones a rhai o arweinyddion y grŵp - llwyddwyd i ddatblygu rhai o'r themâu a gynigiwyd.
Penderfynwyd mai cyfres o bedair baner fyddai ffurf y gwaith terfynol, a chrewyd dwy ohonynt yn y Clwb Ieuenctid. Cafwyd ysbrydoliaeth o fyd natur - o flodau a siapiau - yna argraffwyd geiriau cadarnhaol arnynt a godwyd o'r sesiynau trafod, geiriau megis heddwch/rhyddid/cariad/parch. Mewn gweithdy undydd, crewyd hefyd flodau, dail a choed o wiail a phapur tisw, i'w gosod wrth droed y baneri gorffenedig.
Gwaith Ruth oedd argraffu'r ddwy faner arall, un yn cynrychioli'r gorffennol ac erchylltra'r fasnach gaethweision â'i chysylltiad â Phrydain, ac un arall yn adlewyrchu neges gadarnhaol Martin Luther King yn ei araith enwog. Cafodd y baneri gorffenedig eu gosod yn eu lle yn barod i'w gweld ar ddydd Gwener y Groglith, a chawsant argraff fawr ar bawb. Llongyfarchiadau i Ruth ar ei gwaith yn creu prosiect mor drawiadol a phwysig.
Mwy o Aberystwyth.
|