Bydd darllenwyr Papur Pawb i gyd wedi clywed am Awtistiaeth ac Autism Cymru, yr elusen Gymreig sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth i ddiofeddwyr a'u teuluoedd. Efallai fod rhai ohonoch wedi clywed fod Awtistiaeth yn Elusen y Flwyddyn S4C, ond faint ohonoch sydd yn gwybod fod Prif Weithredwr Autism Cymru Hugh Morgan yn byw yn ein hardal ni? Aeth Papur Pawb draw i Bencae, Taliesin, i'w gyfarfod a gofyn yn gyntaf beth yn union yw Awtistiaeth?
Esboniodd fod Awtistiaeth yn gyflwr sydd yn effeithio un o bob dau gant o'r boblogaeth. Mae gwahanol fathau o awtistiaeth glasurol ac uchel-weithredol, Syndrom Asperger - Syndrom Kanner, ac mae gan ddioddefwyr sawl nodwedd yn gyffredin. Effeithir ar eu gallu i ddeall eraill a chyfathrebu a nhw; i ddehonglu ymddygiad cymdeithasol sydd yn effeithio eu gallu i gydweithio ag eraill; ac i addasu eu hymddygiad i weddu i wahanol sefyllfaoedd. Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yw'r term newydd i ddisgrifio unigolion sydd yn dioddef o'r cyflwr. Cymru yw'r cyntaf o wledydd Prydain i fabwysiadu Strategaeth Genedlaethol i wynebu'r problemau hyn, ac mae Peter Hain wedi lawnsio partneriaeth awtistiaeth rhwng Cymru ac Iwerddon. Bydd y misoedd nesaf yn brysur iawn , ar 13eg o Fai mae cyngerdd yn y Neuadd Fawr, 'Harmony in Autism', a bydd wythnos o ddigwyddiadau yn dechrau ar 11eg o Fehefin, dan nawdd S4C. Bydd grwpiau yn teithio o drefi Cymru sy'n dechrau gyda 'a' (a am Awtistiaeth, e.e. Abertawe), yn defnyddio gwahanol ffyrdd e.e beicio, marchogaeth, hwylio, o dan arweinyddiaeth sêr Cymru - bydd Aled Jones yn arwain grŵp o Amlwch, Sir Fôn, ac yn cyrraedd Aberystwyth erbyn y 15ed, lle bydd cyfarfod mawr ar lan y môr. Ar Fehefin l6eg bydd
arwerthiant a chinio yng Nghaerdydd a bydd Mr Morgan yn cyflwyno Gwobrau Datblygu Awtistiaeth yn yr Amgueddfa Genedlaethol. I ddianc rhag pwysau gwaith bob dydd mae Hugh yn chwarae gitar a harmonica gyda'r grŵp "The Accelerators". Yn ystod y flwyddyn gyntaf maent wedi chwarae llawer o gigs yng Ngogledd Ceredigion ond ei huchafbwynt (hyd yn hyn) oedd noson yn Hwlffordd, pan chwaraeodd yr enwog Stuart Cable gyda nhw mewn cyngerdd. Gellir eu clywed ar y rhaglen John Sambrook Blues ar Radio Ceredigion ar nos Lun. Os hoffech gefnogi Austism Cymru, ewch i Aberystwyth ar Fehefin 15ed (gwyliwch am fanylion yn nes at yr amser), prynwch docynnau raffl, a chefnogwch ddigwyddiadau lleol.
Erthygl gan Mai Leeding
|