Cyflwynwyd y Medal i Sheila mewn seremoni arbennig yn Barracks Copthorne,Yr Amwythig gan y Brigadydd Andrew Meek, sef pennaeth olaf Sheila cyn iddi ymddeol ym mis Awst. Mynychwyd y seremoni gan nifer o gyfeillion a chyn gyd-weithwyr. Mae Sheila bellach yn byw yn West Felton, ger Croesoswallt gyda'i gwr Bill. Bydd llawer yn Nhal-y-bont yn ei chofio yn gweithio yn Y Lolfa cyn cychwyn gyda'r gwasanaeth suful ym 1973, gyda'r Weinyddiaeth Amaeth yn Aberystwyth. Rhwng 1978 a 1985 roedd yn gweithio i'r Swyddfa Gymreig fel ysgrifenyddes bersonol cyn ymuno â'r fyddin yn gynorthwyydd personol i bennaeth yr 143 Brigade. Bu'n cadw trefn ar 7 pennaeth gwahanol tan iddi ymddeol yn 2002, ac roedd pob un ohonynt yn canmol ei sirioldeb a'i threfnusrwydd. Diddorol hefyd oedd deall i'w gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg fod o gymorth mawr iddi yn ei gwaith ar hyd y blynyddoedd. Llongyfarchiadau iddi.
|