Wel, erbyn hyn dwi wedi bod o Dal-y-bont, o Gymru, i ffwrdd o deulu a ffrindiau am dros bum mis yn teithio a gweithio (ychydig) ar ben fy hunan. Mae'r amser wedi hedfan ond mae gen i atgofion arbennig o'r HOLL lefydd dwi wedi ymweld â nhw, yr holl bobl dwi wedi cyfarfod a'r holl brofiadau dwi wedi eu cael.
Dechreuais ym mwrlwm dinas Hong Kong yn blasu'r bwydydd gwych ac yn gwylio'r bobl yn byw eu bywydau o ddydd i ddydd. Roeddwn yn aros tu allan i ardal dwristaidd Kowloon, oedd yn braf, gan deimlo sut ddinas a phobl sydd `na go-iawn. Yna, treuliais fis yng ngwlad Thai, o fwrlwm gwyllt dinas Bangkok i dawelwch prydferth ynysoedd y de i wylltineb a phentrefi anial mynyddoedd y gogledd. Mae hi'n wlad ddiddorol ag iddi sawl wyneb.
Bellach, mae yna rwydwaith enfawr o backpackers yn teithio trwy Dde Ddwyrain Asia felly roedd hi'n hawdd cyfarfod teithwyr eraill ar fws, trên neu awyren neu yn yr hostelau rhad sy'n amlwg iawn yno.
Dathlais y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn ninas lewyrchus Sydney, Awstralia. Mae olion yr arian a ddaeth yn sgil y gemau Olympaidd yn y flwyddyn 2000 yn amlwg yma ac roedd gwylio'r tân gwyllt yn ffrwydro o bont harbwr Sydney yn ffordd wych o groesawu'r flwyddyn 2007. Bum yn gweithio mewn bwyty yn y ddinas ac yn gwneud gwaith gofal plant i hel pres er mwyn crwydro ymlaen eto trwy'r outback anial, coch, sych lawr i ddinas Adelaide ar hyd y Great Ocean Rd, trwy ddinas fywiog, ifanc a hwyliog Melbourne cyn hedfan i Seland Newydd ac yma ydw i ar hyn o bryd.
Wrth siarad â theithwyr eraill ar hyd y daith roedd pawb yn canmol prydferthwch naturiol Seland Newydd a dwi'n siŵr fod nifer o ddarllenwyr Papur Pawb wedi ymweld â gwlad y Kiwis dros y blynyddoedd. Mae gan y ddwy ynys odidog olygfeydd anghredadwy, trefi cyfeillgar hyfryd, gweithgareddau gwyllt a bwyd lleol blasus, er piti am y tywydd Cymraeg! Teithiais o gwmpas mewn fan oedd yn lawer o hwyl ac yn rhoi rhyddid i aros ble bynnag a fynnom bob nos.
Yr uchafbwynt oedd gwneud naid o awyren uwchben llyn anferth Taupo ar ynys y gogledd! Profiad bythgofiadwy oedd gweld y wlad o uchder o 15,000 troedfedd a hedfan uwch ei phen. Trodd nerfusrwydd yn gyffro o fewn eiliadau. Amhosib yw riportio pob dim mewn ychydig o eiriau. Mae gen i ddeufis o'r daith ar ôl o weld teulu yn Hawaii i weld rhai o brif ddinasoedd cyffrous gorllewin America. Cipolwg cyflym ar Ganada cyn dychwelyd i Gymru ar gyfer tywydd cynnes Haf 2007 (!).
Tan Toc,
Emsyl.
|