Mae cerdyn post ac arno lun a dynnwyd yng nghae Sioe Tal¬y-bont ym meddiant Mrs Kathleen Richards, and nid oes dim ar y cerdyn i nodi'r union flwyddyn y tynnwyd yr un gwreiddiol.
Trwy gymorth gwaith ditectif Hefin Llwyd a Dr Wynne Davies, Meisgyn, llwyddwyd i ganfod y flwyddyn.
Hefin Llwyd i ddechrau sy'n esbonio ei ymchwiliad ef: "Dyddiad y llythyrnod ar y cerdyn post yw Jan 22nd, ac fe'i postiwyd ar ddydd Mawrth am 6pm.
Gan nad oes blwyddyn ar y llythyrnod rhaid edrych ar y stamp ei hun.
Fe gostiodd hwnnw '/2 ceiniog ac arno mae llun y brenin Sior V. Bu hwnnw ar yr orsedd rhwng 6 Mai 1910 a 20 Ionawr 1936. Ar gefn y cerdyn ysgrifennwyd y canlynol: "Jan 22nd. I hope you can spare me 3 or 4 lb this week. Mis Davies ffosygravel is to be hurried on Thursday. E.J.", ac fe'i cyfeiriwyd at Mrs Jones, Elgar Farm, Llandre.
Bu Miss Margaretta Davies, Ffosygrafel Isaf farw ddydd Llun, 21 Ionawr 1918 yn 81 mlwydd oed (y diwrnod cyn anfon y cerdyn).
Fe'i claddwyd ddydd Iau, 24 Ionawr 1918 ym mynwent newydd Eglwys Llanfihangel Genau'r Glyn (yr ochr isaf i'r ffordd), yn rhes waelod y rhan ganol. Roedd hi'n ferch i Morris Davies (1800-1858) a'i wraig Esther (1812¬1875), Ffosygrafel Isaf.
David Jones (1874-1938) a'i wraig Mary Jane (1875-1962) oedd yn byw yn Fferm Elgar yn 1918 pan anfonwyd y cerdyn post at Mrs Jones.
Ni chynhaliwyd Sioe Amaethyddol yn Nhal-y-bont yn 1917 ac 1918 oherwydd y Rhyfel Mawr. Daeth consgripsiwn i rym yn 1916, a chollwyd nifer fawr o ddynion ar faes y gad. Mae'r cerdyn post, felly, yn dyddio i 1916 neu ynghynt. Ond os edrychir yn fanwl gellir gweld yr Hen Eglwys Haearn (ar safle Henllan) yn y cefndir.
Yn yr Aberystwyth Observer, 15 Chwefror 1913, ceir hysbyseb gwerthiant yr Hen Eglwys fel a ganlyn: "Talybont - Sale by private treaty. A disused building of corrugated iron, in a good state of preservation, measuring 48 feet long by 20 feet wide, with sides and roof lined with timber - Apply Vicar, Llanfihangel, Borth."
Os gwerthwyd yr Hen Eglwys Haearn yn 1913, yna mae'n rhaid bod y llun wedi ei dynnu yn sioe y flwyddyn honno neu ynghynt na 1913.
Mae'r ddau fachgen ifanc gyda'r trowsusau pen-glin yn awgrymu mai bechgyn ysgol oeddynt tua 14 oed neu iau.'
Ar ô1 iddo sganio'r cerdyn ar gyfrifiadur, llwyddodd Dr Wynne Davies i chwyddo'r llun a chanfod rhif ar y darn papur sydd ar ben y ceffyl sy'n cadarnhau mai 1913 yv flwyddyn.
Yn ychwanegol at hynny, llwyddwyd i ganfoc bachgen sy'n dal pen y ceffyl yw William Jones Willian Cynnull Mawr, sef ewythr i Hywel Cynnull Mawr ac E, Evans Tynrhelyg.
A dyna sut y datryswyd y dirgelwch. Ond mae peth gwybodaeth yn eisiau. Os oes unrhyw un on darllenwy gallu cynnig enwau'r bobl eraill sydd yn y llun, byddem falch o glywed.