Pob lwc i'r chwaraewyr ar gyfer y gêm bwysig hon a gobeithio y bydd rhieni a chefnogwyr yn heidio i weld y gêm.
Mae'r tîm arall dan 13 oed, sy'n cynnwys bechgyn o flwyddyn 7 yn bennaf, hefyd wedi cael tymor addawol ac nid oes amheuaeth y bydd y tîm hwn wedi aeddfedu erbyn y tymor nesaf. Mae'r timau eraill sy'n chwarae dan faner Clwb Pêl-droed Ieuenctid Tal-y-bont wedi perfformio'n dda hefyd ond ni fyddant yn codi cwpanau eleni. Roedd gan y pedwar tîm dan 11 mlwydd oed gyfle i gyrraedd y rownd gynderfynol yn y gystadleuaeth-ddiwedd-tymor a gynhaliwyd ar feysydd Penweddig ar 8 Mawrth. Yn anffodus dim ond un tîm lwyddodd i gyrraedd y rownd honno sef Merched Tal-y-bont.
Collodd Tal-y-bont o 1-0 o ganlyniad i gôl-yn-rhwyd-ei-hun anffodus. Collodd Teirw Tal-y-bont o 2-0 yn erbyn Aber United. Sgoriwyd y ddwy gôl yn y funud olaf, y gyntaf ohonynt gan fachgen o Dal-y-bont, Josh Abbot, sy'n chwarae i Aber. Collodd Teriyrs Tal-y-bont 1-0 yn erbyn tîm cryf o Dregaron.
Yn y rownd gynderfynol yn erbyn Penuwch llwyddodd Merched Tal-y-bont i sgorio'n gyntaf, gyda Gwenno Evans yn penio i'r rhwyd o groesiad gan Nia Jones. Wedi brwydro'n galed i gadw'r fantais, ildiwyd gôl gydag ychydig dros funud yn weddill, a rhaid oedd chwarae amser ychwanegol. Ni sgoriwyd goliau pellach ac yn anffodus collwyd y gystadleuaeth giciau o'r smotyn, 3-1. Dim lwc felly i'r Merched.
Hoffwn ddiolch i'r staff hyfforddi - Dick Squires, Sian James, Simon Campion, Mark Ebenezer, Alun Thomas, Ceri Jones, Keith Hughes, Wendy Jones a Karen Evans - am eu gwaith diflino a'u brwdfrydedd yn ystod y tymor, a hefyd am y gefnogaeth a gafwyd gan rieni'r chwaraewyr. Diolch yn fawr.
Brian Richards
|