Mae'r rhai ohonom sy'n cofio Gareth Roberts- mab hynaf John a Jill, Felin Lifio, Talybont- yn ystod ei ddyddiau ysgol yn Nhalybont a Phenweddig yn ei gysylltu â chwarae'r iwffoniwm. Bu'n aelod o nifer o fandiau prês, yn lleol ac yn genedlaethol, yn y cyfnod hwnnw.
Bellach, fodd bynnag, mae'r cerddor 32 oed wedi newid i chwarae'r trombôn, ac ers nifer o flynyddoedd bu'n chwarae Jazz o gwmpas Caerdydd a De Cymru. Mae'n chwarae mewn amryw o fandiau Cymreig, yn cynnwys Cerddorfa Cyfansoddwyr Jazz Cymru a phumawd Jazz wedi ei ffurfio a'i redeg ganddo ef, a byddant yn chwarae nifer o gyfansoddiadau Gareth.
Ar ôl graddio mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Nottingham, dychwelodd Gareth i Aberystwyth i ddilyn cwrs Ymarfer Dysgu Mathemateg. Symudodd i Gaerdydd yn 1998, ac am 5 mlynedd bu'n athro llawn amser yn Ysgol Gyfun Rhydywaun cyn i ormod o nosweithiau hwyr ar y siin jazz ei orfodi i adael er mwyn dilyn cwrs ôl-raddedig mewn jazz yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru!
Mae Gareth yn brysur iawn fel trombonydd ac yn ogystal â chwarae gyda nifer fawr o fandiau y mae hefyd yn derbyn gwaith rheolaidd yn chwarae ar y teledu a'r radio. Mae Gareth hefyd yn dysgu'n rhan amser yn Ysgol Gyfun Glantaf, yn arwain a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer dau fand jazz disgyblion ysgol, ac fe'i cyflogir gan sawl mudiad gwahanol i redeg gweithdai cerdd ar gyfer disgyblion o bob oed.
Mae Gareth newydd ryddhau ei CD gyntaf, sef "The Attack of the Killer Penguins," a gellir ei phrynu oddi ar y wefan www.garethtrombone.co.uk
Dymunwn yn dda iawn i Gareth yn ei fywyd prysur fel cerddor proffesiynol ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor amdano yn y dyfodol.
|