91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Rwth Jen Ladis Bach y Pentre
Mai 2010
Hanes o arddangosfa o waith Rwth Jen.

0s ewch chi heibio Oriel y Bont, Stryd y Bont, Aberystwyth, fe welwch arddangosfa luniau o waith Rwth Jen.

Lluniau bychain ydynt, ac ym mhob llun mae tair menyw fach yn eu gwisgoedd Cymreig, weithiau'n sipian te, dro arall yn dadiau neu'n myfyrio neu'n chwifio'u breichiau o gwmpas y lle.

Beth wnaeth i Rwth ddilyn y trywydd yma? Mae hi'n byw yn Nhalybont, mewn ardal ble bu'r diwydiant gwlan mor bwysig, ac mae wedi ymchwilio i'r hanes Ileol.

Hefyd denwyd hi a phatrymau brethyn diddorol a welodd yn ffatri wlan Drefach Felindre.

Daeth hyn a hi at y syniad o fenywod Cymru yn gwisgo dillad brethyn o wead cartref.

Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain sydd a gwisg gwbwl draddodiadol a honno wedi datblygu'n uniongyrchol o'r dillad a wisgid gan y werin bobol.

Ond fe ddatblygodd y wisg er mwyn apelio at dwristiaid. Bu addasu a moderneiddio ar y dillad. Weithiau gwelech siol sidan o'r dwyrain gyda phatrymau celfydd, neu ychwanegid Ilawer o ffrils a chotwm a les.

Er na welsai'r twristiaid neb go iawn yn gwisgo'r dillad hyn yng Nghymru, roeddynt wrth eu bodd yn prynu doliau a chardiau gyda Iluniau o fenywod bach bochgoch yn gwisgo het a bodcyn.

Ai ffotograffwyr o gwmpas gyda phecyn parod o ddillad a thynnu Iluniau gwahanol fenywod yn gwisgo'r un dillad er mwyn dangos eu hunain i'r camera.

Byddai siopau megis Wool¬worth yn gwerthu pecynnau parod 'Gwisg Gymreig' i blant bach Cymru gael eu gwisgo ar Ddydd Gwyl Dewi.

Math o sidan ffug oedd y rheini gyda phob un yn union yr un fath. Portread ffug a chopi gwael o'r wisg gyntefig oeddynt, yn rhoi'r syniad na allai'r ladis bach Cymreig wneud dim ond yfed te, gwau a chloncan drwy'r dydd.

Mae Rwth wedi trawsnewid y syniad henffasiwn yma. Ymhlith y delweddau a greodd mae doliau bach gyda sgert fawr lydan i guddio rholyn o bapur tÅ· bach. Os edrychwch chi'n fanwl ar ei Iluniau fe welwch nad yw Ruth yn gallu ymatal rhag dod ag elfennau doniol i mewm. Pob hwyl i Rwth gyda'r cyfeiriad newydd yma yn ei gwaith. Unwaith eto mae hi'n profi pa mor agos yw Cymreictod a gwreiddioldeb.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý