91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Aelodau Eglwys Bethel Bethel yn helpu trigolion Haiti
Ebrill 2010
Hanes ymdrechion aelodau Eglwys Bethel i godi arian ar gyfer apêl Haiti.

Er nad oedd ond ychydig amser ers i griw mawr ddod at ei gilydd yn y Neuadd Goffa i fwynhau te prynhawn a chodi swm teilwng iawn o arian at Apel Haiti, roedd Eglwys Bethel yn ffyddiog y byddai'r pentrefwyr yn fwy na bodlon cefnogi digwyddiad arall i gefnogi'r un achos gyda'r bwriad o geisio lleddfu rhywfaint at y dioddefaint.

Felly, at fore Sadwrn, 6 Mawrth, trefnwyd fore coffi, raffl a stondinau amrywiol, ac unwaith eto hyfryd oedd gweld pobl a phlant o bob oed yn tyrru i'r Neuadd Goffa i fwynhau'r gwmniaeth, i brynu pob math o nwyddau, i geisio ennill un o'r llwythi o wobrau raffl ac, yn bwysicach na dim, i gefnogi'r achos.

Rhoddwyd croeso twymgalon i ymwelydd arbennig ac annisgwyl, sef Sali Mali, a chafodd y plant gyfle i fwynhau ei chwmni hi a rhai o sêr S4C a fu'n eu diddanu a thriciau syrcas, yn ogystal a rhoi cyngor i unrhyw un a ddymunai hynny at y newid i wasanaeth teledu digidol.

Yn glo hyfryd at y bore cafwyd eitemau amrywiol wedi eu cyflwyno'n raenus gan rai o blant yr Ysgol Sul dan ofal Falyri Jenkins.

Hoffai'r Eglwys ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant yr achlysur, ac i'r criw lluosog o bob oed a ddaeth i gefnogi.

Codwyd £1,000 yn y bore coffi, yn ychwanegol at y cyfraniad o £200 oddi wrth yr Eglwys ei hun, a £150 oddi wrth yr Ysgol Sul, a anfonwyd pan dorrodd y newyddion am y drychineb gyntaf ddechrau mis Ionawr.

Gyda chefnogaeth pentref Tal-y-bont , felly, mae Eglwys Bethel wedi trosglwyddo cyfanswm o £1,350 i Apêl Haiti - camp aruthrol yn wir.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý