91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Syniadau pensaer Parc Busnes i Dal-y-bont?
Hyfref 2003
Cynhaliwyd Diwrnod Agored "Dechrau mewn Busnes" yn y Neuadd Goffa ddydd Llun Medi 29 i roi cyfle pellach i bobl drafod unrhyw syniadau sydd ganddynt ar gyfer cychwyn mewn busnes.
Roedd Anna Prydderch a'i chydweithwyr o Cyswllt Busnes yno i gynghori pawb a alwai heibio ynglyn â'r cyfleoedd a'r grantiau a oedd ar gael i gynorthwyo busnesau newydd. Roedd Andy Rowland o ecodyfi yno hefyd i esbonio eu cynlluniau hwythau ac i gynnig cyngor perthnasol.

Prif bwrpas y diwrnod agored a'r Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd i ddilyn, oedd rhoi cyfle i Bartneriaeth Egin drafod ymhellach gydag aelodau'r gymuned ynglyn â'r priodoldeb o ddatblygu Canolfan / Parc Busnes yn y pentref.

Byddai datblygiad o'r fath, yn cynnig cyfleoedd i bobl leol sefydlu busnesau bychan yn yr ardal. Y tro hwn arddangoswyd syniadau Maredudd ab Iestyn, y pensaer sy'n cydweithio â nhw, ynglyn â sut allai adeilad yn cynnwys unedau gwaith newydd at gyfer 6 / 8 uned, edrych. Roedd ei gynlluniau yn hynod ddiddorol ac ysgogwyd sawl trafodaeth ganddynt!

Pwrpas arall i'r cyfarfod oedd i weld beth oedd ymateb aelodau'r gymuned i'r syniad o Barc / Canolfan Busnes yn y pentre ac i weld faint fyddai â diddordeb i sefydlu Cwmni Cymunedol yn y pentref i symud y gwaith yn ei flaen.

Er mai ychydig a ddaeth i'r cyfarfod roedd ymateb pawb, gan gynnwys y nifer dda a alwodd i mewn yn ystod y dydd, yn hynod o gadarnhaol. Mae'r Cyngor Cymuned a gomisiynodd y gwaith ymchwil ar y cyd ag ecodyfi a'r WDA, yn disgwyl cael adroddiad oddi wrth Guto Bebb a Gwilym Euros o Bartneriaeth Egin erbyn canol mis Hydref. Yna bydd rhaid penderfynu a oes gwerth symud ymlaen gydag ail ran yr astudiaeth ai peidio. Bydd yr ail ran yn edrych yn fwy manwl i weld pa adeiladau / safleoedd sydd ar gael o fewn neu yng nghyffiniaur pentref, beth ydi'r tebygolrwydd o gael caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun o'r fath a pha arian y gellid ei ddenu er mwyn symud ymlaen ymhellach.

Cewch y newyddion diweddaraf yn rhifyn nesaf Papur Pawb. Yn y cyfamser os oes rhywun am drafod y syniad ymhellach gallwch gysylltu ag Ellen ap Gwynn ar 832551.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý