Nid prinder petrol yw'r
rheswm am y sychder, nac effaith
yr holl haul a gawsom yr haf yma
(!), ond yn hytrach ymddeoliad
John a Karen Thomas.
Ers y 1af
o Orffennaf 1972, bu'r ddau yn
rhedeg Garej 'Artist Valley' yn y
pentref, ond yn anffodus nid
oedd modd gwerthu'r fusnes fel y
mae, ac felly ar ddiwedd Medi
2008 daeth diwedd cyfnod yn
hanes y garej a'r ardal gyfan.
Yn ogystal a gwerthu
tannwydd a chynnig gwasanaeth
atgyweirio a chynnal, roedd y
garej hefyd yn rhedeg siop yn
gwerthu nwyddau amrywiol a
phapurau newydd. Ers rhai
blynyddoedd bellach, y garej
oedd yr unig fusnes oedd yn
darparu i anghenion trigolion
Ffwrnais, Eglwysfach a Glandyfi,
ac felly bydd ei chau yn golled
fawr i'r ardal.
Gwelwyd llawer tro ar fyd ers
1972. Y pryd hynny, 34 ceiniog
y galwyn oedd pris petrol. Dros y
blynyddoedd sylwodd John fod y
gwerthiant tannwydd yn lleihau
wrth i foduron gynyddu eu
effeithioldeb, tra fod mecanwaith
y ceir yn cymlethu yn aruthrol.
O gwrdd a'r cyhoedd o ddydd
i ddydd mae ganddynt amryw o
atgofion digri a dwys.
Yr un
mwyaf ysgytwol oedd pan fu
cwsmer farw tra'n cael petrol.
Digwyddodd hyn flynyddoedd
yn ôl, yn y cyfnod pan John
fyddai'n gweithio'r pwmp.
Llwyddwyd i ymdopi â'r sefyllfa
anodd yma, ac ni chafwyd
digwyddiad tebyg iddo byth
wedyn.
Daeth llawer i berson enwog
heibio'r garej, yn eu plith Sir
John Mills, yr actor John Thaw,
yr aml-dalentog Rolf Harries ac
wrth gwrs Robert Plant (aelod o'r
band Led Zepelin sy'n berchen
Dolgoch, yng Nghwm Einion).
Dymuna John a Karen
ddiolch i'w holl gwsmeriaid am
eu cefnogaeth â'u cyfeillgarwch
dros y blynyddoedd.
Hoffai
Papur Pawb hefyd fanteisio ar y
cyfle yma i ddiolch iddynt
hwythau am eu gwasanaeth i'r
ardal, ac am werthu Papur Pawb
i drugolion Ysgubor y Coed.
Dymunwn yn dda iddynt yn eu
hymddeoliad.
|