Pur anaml bydd Ei Mawrhydi a phwysigion y byd gwleidyddol yn cofio am ardal Papur Pawb wrth ddosbarthu ei hanrhydeddau ar ddechrau'r flwyddyn, ond eleni daeth clod i un ohonom ni pan dderbyniodd Stephen Hugh Morgan, Pencae, Taliesin yr O.B.E.
Daeth Hugh, Carol a'r teulu i fyw yn Nhaliesin rhyw saith mlynedd yn ôl, pan sefydlwyd yr elusen genedlaethol Autism Cymru.
Pan benderfynwyd lleoli'r elusen yn Aberystwyth yn hytrach na Chaerdydd daeth y newyddion fel sioc i lawer o bobl gan fod cymaint o elusennau â'u pencadlys yn Ne Cymru. Fel Prif Weithredwr Autism Cymru, mae Hugh wedi arloesi yn y gwaith o ddarbwyllo a newid polisi'r llywodraeth tuag at awtistiaeth, a chaiff ei gydnabod mewn sawl gwlad fel awdurdod yn y maes. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi annerch Llywodraeth yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Tŷ'r Arglwyddi a'r Gymuned Ewropeaidd.
Yn 2006 dewiswyd Autism Cymru yn Elusen y Flwyddyn S4C. Ar hyn o bryd, mae Hugh yn arwain tîm sy'n
sefydlu Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru a fydd yn penodi Athro Awtistiaeth yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Cymru yn ystod 2008.
Er iddo dderbyn yr O.B.E. am yr hyn a gyflawnwyd gydag Autism Cymru, mae Hugh wedi treulio'i fywyd proffesiynol er 1975 ym meysydd awtistiaeth ae anabledd dysgu. Dechreuodd fel cynorthwydd nyrsio mewn ysbytai yng Ngwynedd cyn symud gyda'i deulu i Dde Cymru, Gwlad yr Haf a Chanolbarth Lloegr lle'r oedd yn Brif Weithredwr Autism West Midlands cyn dychwelyd i Gymru.
Llongyfarchiadau i Hugh ar ei anrhydedd. Mae'n fraint i'r ardal gael rhywun o'i allu a'i ymroddiad ef yn y cylch.
|