Erbyn hyn cawsom ar ddeall y bydd y gwasanaeth ar gael o 28 Ebrill 2004 ymlaen. Dyma wasanaeth holl bwysig i'r ardal os ydym am weld ein busnesau lleol yn datblygu. Mae cael mynediad rhwydd a chyflym i'r we fyd eang yn hanfodol i bob busnes modern ac i gyfleodd addysgol ein plant a phobl ifanc. Eisoes mae yma Y Lolfa, sydd bellach yn fusnes rhyngwladol, yn ogystal â nifer o fusnesau llai ac mae'r newyddion bod y papur dyddiol Cymraeg cyntaf yn debygol o gael ei sefydlu yn y pentref yn y dyfodol yn argoeli'n dda ar gyfer datblygiad economaidd yn Nhal-y-bont. Hoffwn ddiolch yn gynnes i Ian Jones a Nigel Callaghan am eu gwaith a'u cefnogaeth wrth sicrhau llwyddiant i'r ymgyrch a dymunaf Flwyddyn Newydd Dda lewyrchus i bob un o ddarllenwyr Papur Pawb. Ellen ap Gwynn
|