Yn dilyn eu llwyddiant yn ddiweddar yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ceredigion, mae criw o blant, athrawon rhienii a chefnogwyr Ysgol Gymunedol Tal-y-bont yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael bod yn rhan o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sydd, eleni, ar ei newydd wedd. Yn hytrach na chael ei chynnal ar faes traddodiadol, mewn pebyll, cynhelir Eisteddfod 2005 yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd. Y ddau griw sydd wedi llwyddo i fynd ymlaen i'r Genedlaethol yw'r Côr, dan arweiniad Mrs Falyri Jenkins (a chyn-ddisgybl o'r ysgol, Catrin jenkins, Ynyseidiol, Ffwrnais, yn cyfeilio), a'r Band Pres dan arweiniad Alan Phillips. Llongyfarchwn y plant a'u hathrawon ar eu llwyddiant, a diolch hefyd am bob cefnogaeth a geir gan y rhieni a thrigolion y pentref. Gobeithio y cawn weld plant Ysgol Tal-y-bont yn troedio'r un llwyfan a Bryn Terfel a mawrion eraill y genedl ddechrau mis Mehefin! Pob lwc i chi, blant!
|