Mae Kara'n aelod o glwb ffans Robbie ers 4 blynedd a'r mis diwethaf cafodd ei gyfarfod. Er iddi hi fod yn cadw llyfr sgrap o doriadau papur newydd o hanes Robbie ar y cae pêl-droed ers blynyddoedd, daeth ei breuddwyd yn wir mis diwethaf wrth iddi gael ei gyfarfod ar ei cae ymarfer yn Birmingham City. Nid ar chwarae bach roedd hyn wedi digwydd. Roedd Kara, sy'n dipyn o artist, wedi gwneud cartŵn o Robbie yn dilyn digwyddiad ar y cae pêl-droed a gyda hwn fe enillodd gystadleuaeth ar ei safle we. Ei gwobr oedd pâr o'i esgidiau pêl-droed wedi'u harwyddo, a chyfarfod a'i harwr. Fe gafodd Kara eistedd yn ei gar Porsche a bu sgwrsio cyfeillgar rhyngddynt. Roedd Karen a Lee, mam a tad Kara, yno hefyd yn dyst i ddiffuantrwydd y pêl-droediwr dawnus oedd yn dal, bron hyd at ddagrau, yn teimlo'n chwithig iawn wrth feddwl 'nôl dros y gêm rhwng Cymru a Rwsia.
|