Fel y gŵyr pawb yn y pentre - a phawb sy'n gyrru drwy'r pentref - mae murlun enwog Tal-y-bont wedi cael ei ddymchwel wrth i hen warws y Lolfa gael ei weddnewid yn swyddfeydd.
Peintwyd y murlun yn nechrau'r 90au ar ôl i Ruffuddiaid Tal-y-bont - cyfarwyddwyr y Lolfa - gael fflach o ysbrydoliaeth. Sicrhawyd cymorth ariannol gan Gyngor y Celfyddydau, a gwahoddwyd ceisiadau ar gyfer y gwaith gan nifer o artistiaid. Bu'r murlun yn rhan annatod o fywyd Tal-y-bont ac yn rywbeth sy'n cael ei uniaethu â'r pentref, ac ni ellid gadael i'r mur fod yn ddi-lun yn dilyn y newidiadau.
Ond y newydd da yw bod murlun arall ar y ffordd - o dan gyfarwyddyd arlunydd lleol -
Ruth Jên. Amcangyfrifir y bydd y murlun yn cymryd tua tri mis i'w gwblhau, felly erbyn y gwanwyn dylai fod gwledd weledol newydd o waith unigryw Ruth i godi'n calonnau! Meddai Ruth, "Fi fydd yn peintio'r murlun. Dydyn ni ddim wedi penderfynu beth fydda i'n peintio eto. Ond gallaf gadarnhau mai nid acrylics na phrint sgrin sidan fydd y cyfrwng." Mae Ruth yn gobeithio bydd pobl yn onest wrth ymateb i'r murlun - fel oeddent yn y gorffennol! Hoffai Ruth bwysleisio nad hi sy'n gyfrifol am y wal, felly os bydd craciau yn ymddangos ynddi, nid ati hi y dylai pobl ddod i wneud sylwadau. Yn y gorffennol, cafodd Ruth ei stopio gan bobl yn y dre yn dweud, "Ydych chi wedi gweld golwg eich wal chi? Mae crac ynddi." Lluniau o'r hen furlun yn trawsnewid i'r murlun newydd yn 2006 Sgwrs gyda'r arlunydd Ruth Jên
|