Drwy fy ngwaith yn trefnu digwyddiadau i British Heart Foundation (BHF) Cymru rwy'n annog pobl I gymryd rhan yn y digwyddiadau rwy'n trefnu on d nôl ym mis Ionawr ces gynnig gan fy rheolwyr i fynd ar ddigwyddiad tra gwahanol. Y gamp fyddai cyrraedd Base Camp mynydd ucha'r byd - Everest!
Ond nid fi'n unig oedd yn cael y cynnig - dim and un enw mewn het oeddwn i a rhaid croesi bysedd! Roedd dros 20 ohonom wedi cael y cynnig a chefais dipyn o sioc i gael galwad ffôn i ddweud taw'n enw i ddaeth allan! Gyda dim on 3 mis i geisio ymarfer a pharatoi'r corff ar gyfer yr 14 diwrnod o gerdded cyson bûm yn ymarfer ym Mannau Brycheiniog yn wythnosol.
Ar yr 28ain o Ebrill cwrddais â 'r criw o 43 unigolyn oedd wedi codi yn agos i £4000 yr un i'r BHF a chychwyn ar yr antur i Nepal! Ac am antur! Dim and un noson i ddod dros y jet lag yn Kathmandu cyn hedfan ar "lastig band" o awyren i faes awyr Lukla yn Himalaya, 2860m.
Fe gymerodd 8 diwrnod i ni gyrraedd y Base Camp: dau unigolyn yn gorfod cael hofrennydd allan o'r mynyddoedd oherwydd salwch; dau ddim digon ffit i fynd yr holl ffordd ac un yn cael trafferth gyda'r altitude! Nid oedd modd paratoi ar gyfer yr altitude a doedd oedran na' ffitrwydd ddim yn 'ffactorau allweddol. Mater o lwc oedd e yn y pen draw ac roeddwn i yn lwcus!
Cerdded drwy bentrefi bychan, yna pasio ffermydd unigol cvn cyrraedd ardal anal y Base Camp ar uchder o 5600m. Roedd y lle fel cymuned fechan, gyda Maer ei hun ac fe oedd yn trefnu'r holl le. Roedd degau o bebyll yno yn Ilawn expeditions yn,aros am y cyfle i gychwyn am dop y mynydd! Gan fod ffagl yr Olympics ar ei ffordd drwy Nepal ac i fod i gyrraedd copa Everest run pryd, segur oedd pawb yn y Base Camp gan fod y mynydd ar gau tan i'r ffagl gael ei gario i'r copa yn saff.
Dim and 40 munud y treuliasom yno - digon o amser i grio gyda balchder ein bod wedi cyrraedd, edrych o gwmpas a thynnu llun fe tystiolaeth ein bod wedi cwblhau y dasg! Yna troi nôl a chychwyn ar y daith lawr - taith o 8 diwrnod i fyny - nôl lawr mewn 3!
Wel, am brofiad a hanner. Poen coesau o gerdded 8 awr bob dydd, dim cawod am bythefnos, a rhannu pabell gyda dieithryn ar ddiwrnod 1 and person a oedd yn ffrind am oes erbyn diwrnod 17 yn sgil yr holl emosiwn o wybod ein bod wedi dringo i un o uchelfannau'r byd yng nghwmni ein gilydd.
Roedd pawb o'r criw yn holi ar y ffordd i lawr - "byddet tin gwneud e 'to?" a'r ateb oedd "na nefar!". Erbyn hyn yn dilyn rhai misoedd adre, nol i rigmarôl bywyd 9 tan 5 mae'r ateb yn wahanol - "baswn heb feddwl dwywaith". Ac os a i lan yna eto dwi'n addo mynd a chopi o Papur Pawb a thynnu llun o fi a'r papur ar y mynydd mawr!!!
Ysgrifenwyd yr erthygl gan Mali James
|