Wrth i Bapur Pawb ymddangos o'r wasg, bydd un o drigolion Bont¬goch yn hedfan o Lundain i Tangier, yng ngogledd Affrica i gynghori brodorion tlawd ardal mynyddoedd y Rif yng ngogledd Morocco gyda nifer o broblemau cymdeithasol.
Mae Tamlin Watson, sy'n enedigol o Market Drayton, Swydd Amwythig, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth mewn swoleg, ac sy'n dal cymhwyster ychwanegol o Brifysgol Southampton mewn ymddygiad anifeiliaid anwes, wedi byw yn Bont-goch ers 14 mlynedd.
Mae'n arbenigwraig ar ymddygiad pob math o anifeiliaid yn cynnwys cwn, cathod, ceffylau, asynnod a chreaduriaid bach blewog fel cwningod yn ogystal.
Bydd Tamlin yn treulio deg diwrnod ym Morocco yn cynorthwyo gyda phrosiect a ariannir gan Sw Caeredin yn yr Alban i geisio hyfforddi saith o gwn brodorol i ddod o hyd i faw y mwncwn Barbary Macaque, sydd erbyn hyn yn brysur mynd yn greaduriaid prin iawn.
Bydd canfod y baw, ac yna ei ddadansoddi'n wyddonol, yn fodd i ddeall patrwm byw yr anifeiliaid yma yn well, ac i ddysgu mwy am eu harferion bwyta ac i wybod pa baraseitiaid sy'n effeithio arnynt.
Os yw'r cynllun yn llwyddiant yna gobeithir gweld y mwncwn yma'n cynyddu'n sylweddol mewn niferoedd a'r pryder gwirioneddol am eu dyfodol yn lleihau.
Mae Tamlin yn gobeithio medru dychwelyd eto cyn diwedd 2010 i Forocco i gynghori'r brodorion ymhellach gyda phroblemau rheolaeth ar eu cŵn. Mae statws y ci braidd yn ansicr mewn gwlad lle mae'r Mwslemiaid yn ei ystyried fel creadur aflednais.
Ac fel canlynaid mae niferoedd y cŵn gwyllt yn arbennig o uchel, ac maent yn fygythiad cyson i eiddo ffermwyr yr ardal.
Gan eu bod yn ymosod a chymryd lloi, wyn ag anifeiliaid eraill, mae'r ffermwyr sy'n byw mewn tlodi enbyd, yn ymateb drwy geisio eu gwenwyno ac mae hynny yn ei sgil yn creu problemau eraill o ran cadwraeth bywyd gwyllt wrth i hyn effeithio ar y gadwyn fwyd.
Mae Tamlin yn gobeithio derbyn nawdd ar gyfer y gwaith hwn, ac mae'n brysur ar hyn o bryd yn cysylltu a nifer o elusennau sydd yn cynnig cymorth ar gyfer cynlluniau o'r math hwn.
Mae'n ddiolchgar iawn am y nawdd a'r cymorth meddyginiaethol a dderbyniodd hyd yma o law Milfeddygfa Ystwyth, Llanbadarn Fawr ar gyfer y daith gyntaf.
Yn y pen draw, nod y cynllun yn y tymor hir yw ceisio addysgu'r brodorion ac ar yr un pryd anelu i sbaddu nifer uchel o'r cŵn gwyllt er mwyn lleihau eu niferoedd.
Dymunwn siwrne ddiogel i Tamlin, a gobeithiwn dderbyn adroddiadau pellach am ei gwaith ar gyfer Papur Pawb yn ystod y misoedd nesaf.