Pwyllgor Apêl Llanboidy, Cilymaenllwyd a Llanwinio
Bu'r noson Caws a gwin yng nghwmni Bois y Frenni yn Neuadd Llanboidy nos Wener, Medi 23 yn un hwyliog a llwyddiannus dros ben. Roedd y Neuadd yn llawn a llwyddwyd i godi swm sylweddol tuag at yr apêl. Diolch i bawb a wnaeth gyfrannu at lwyddiant y noson mewn unrhyw fodd. Gofynnir yn garedig i drigolion ardal y Cardi Bach barhau i fwynhau a chefnogi'r digwyddiadau eraill a gynhelir gan y pwyllgor.
Bydd y pwyllgor yn cynnal Gwasanaethau Carolau yng Nghapel Nebo, Efailwen, nos Sul, Rhagfyr 4ydd. Codir £2 ar oedolion wrth y drws, a bydd mynediad am ddim i blant. Jill Lewis fydd yn arwain a chyflwynir eitemau gan Aelwyd Ffynnonwen, Ysgol Bro Brynach ac Ysgol Beca.
Dylai pawb sydd wedi prynu anagram gofio bod angen eu dychwelyd erbyn Hydref 31ain at Mrs S. Rees, Awel y Grug, Llanwinio, Llanfyrnach, SA35 0DE.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Apêl yn Nhafarn y Pantblaidd nos Lun, Tachwedd 7 2005 am 7.30pm.
Pwyllgor Apêl San Clêr, Llangynin a Bancyfelin Cynhaliwyd Cymanfa Ganu 'Ar Eich Cais' yng Nghapel Bethlehem, Pwlltrap a Nos Sul, Hydref 9. Llywyddwyd yr Oedfa gan Beti Wyn James, Cadeirydd y pwyllgor Apêl. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Meirion Williams, Is-gadeirydd y pwyllgor cyn i'r Arweinydd Gwadd, Iwan Evans gymryd at yr awennau yn ei ffordd ddi-hafal ei hun. Cyfeilieyd ar yr organ gan Joan Evans a grŵp o ieuenctid, ar eu hofferynnau.
Roedd nifer fawr o bobl wedi anfon cais am eu hoff emyn a chanwyd un ar ddeg ohonynt a ddaeth i'r brig. 'Top of the pops' pedd 'Gair Disglair Duw.'
Yn ystod yr oedfa cafwyd eitemau gan nifer o ieuenctid y cylch a chyhoeddwyd yr emynau ganddynt hefyd. Croesawyd y gŵr gwadd, Y Cyng. Roy Llewellyn a chafwyd araith bwrpasol ganddo ynglŷn â phwysigrwydd Mudiad Urdd Gobaith Cymru.
Bu'n noson hyfryd a chodwyd arian sylweddol tuag at yr Eisteddfod. Swyddogion y pwyllgor Apêl: cadeirydd - Beti Wyn James; Is -Gadeirydd, Meirion Williams, Ysg. - Beti Thomas; Trysoryddion Nia ac Anharad Lewis; Cynrychiolydd Llangynin - Marian Thomas; San Clêr - Beti Thomas; Bancyfelin - Hilary Evans.
|