91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Cerys Matthews Cerys yn cyfweld Cerys
Mehefin 2003
Mae'r amser wedi dod i ffonio Cerys Matthews a dw i'n nerfus. I wneud pethau'n waeth, dyw hi ddim adref. Mae ei mam Pauline yn dweud ei bod hi'n siopa yn Abergwaun. Felly dw i'n ffonio eto ...
Ei thad, Phillip sy'n ateb y tro hwn tra bod Cerys wedi mynd allan am dro. Dwi'n dechrau poeni nawr bod Cerys Matthews yn un o'r selebs lletchwith 'ma, felly dwi'n paratoi i orfod seboni er mwyn cael sgwrs gall.

Ond dwi'n cael siom o'r ochr orau unwaith i'w llais unigryw gyhoeddi ei 'helo' yn dawel hyderus ar ben arall y ffôn. Mae'r ddwy ohonom yn rhannu gigl am y ffaith ein bod ni'n rhannu'r un enw, ac yn chwerthin mwy wrth rannu straeon am sut mae rhai pobl yn ei ynganu. Dw i'n closio ati'n barod, ac er ei bod hi'n gantores fyd-enwog, does dim sôn am y strancio sy'n cael ei gysylltu â sêr pop yn perthyn iddi.

Mae Cerys Matthews yn gyfeillgar, addfwyn, siaradus ac yn swnio'n hapus dros ben.

Mae Cerys yn siarad o gartref ei rhieni yn Nhrefin, lle mae'n treulio llawer o' i hamser y dyddie ma. Mae hi wrth ei bodd yng ngorllewin Cymru, ac yn teimlo ei bod hi'n cael llonydd yma, heb orfod cuddio dan gap pig neu wallt ffug rhag cael ei heidio gan ddilynwyr.

Mae'r bobol fan hyn lot gwell na unman arall" meddai Cerys, "maen nhw'n brilliant. Mae gwreiddiau Cerys Matthews yn ddwfn ym mhridd Sir Benfro, er ei bod hi'n rhannu ei hamser rhwng Cymru a Nashville, Tennessee y dyddie ma. Aeth hi yno'r llynedd i recordio ei CD cyntaf fel cantores unigol, sef Cockahoop, ond er ei bod wedi teithio'r byd, ei led a'i hyd, does unman yn debyg i gartref iddi, ac yma mae hwnnw.

Soi'n meddwl bod gorllewin Cymru a Nashville mor wahanol i ddweud y gwir" meddai Cerys. "Beth oedd fwyaf od i fi oedd symud mas o'r ddinas achos bues i'n byw yn Llundain am damed bach, ac mae' n anodd weithie yn Nashville achos yr holl insects a stwff fel'na! Mae cymaint o bethau dwin hoffi am fan hyn - y bobol, y creigiau, y gwynt, y glaw, yr haul a holl hanes y teulu sydd yma. Mae Seth fy ngwr i wedi cwympo mewn cariad gyda'r traeth.

"Fi'n agos iawn at fy nheulu i gyd, ac maen nhw i gyd yn Sir Benfro," meddai wedyn. "Mae'n bwysig iawn i fi fod gyda nhw nawr, fel pawb arall pan maen nhw'n cael cu babi cyntaf hefyd."

Fe ddaeth Cerys i boblogrwydd fel wyneb a llais Catatonia, ond erbyn hyn mae'n canu ar lwyfannau'r byd ar ei phen ei hunan. "Dyw e ddim yn teimlo mor wahanol i fod ar ben fy hunan i fod yn onest" meddai wrth gymharu. "O'n i'n lwcus i allu gwneud lot o bethau tu fas i'r band anyway. Ond mae'n neis nawr bo fi'n cael dewis y caneuon a bo fi'n ysgrifennu nhw i gyd fy hunan hefyd. Ma' music yn teimlo lot mwy naturiol i fi nawr."

Emyn mam-gu
Un o'r caneuon sydd wedi cael llawer o sylw ar ei CD newydd yw'r emyn 'Arglwydd Dyma Fi'. Mae'n un o hoff ganeuon Cerys, ac yn ei hatgoffa o'i mam-gu, arferai ganu'r emyn iddi pan roedd hi'n ferch fach. "Ma llawer yn dweud bo nhw'n dechrau crio pan ma nhw'n clywed hon os odyn nhw'n nabod y gân" meddai, "ac os ydyn nhw ddim yn ei 'nabod hi mae'n nhw'n hollol spell-bound."

Er gwaetha'r enwogrwydd byd-eang sydd wedi dod i'w rhan, dyw Cerys Matthews yn sicr ddim wedi anghofio am ei gwreiddiau, ac mae hi'n dweud y bydd hi "nôl a mlaen yn aml" rhwng Cymru a gweddill y byd o hyn ymlaen. Felly cofiwch gadw llygad ar agor amdani wrth i chi grwydro'r ardal, ac os byddwch chi'n ei gweld, gwnewch yn siwr eich bod yn dweud wrthi eich bod wedi gweld ei llun hi ar glawr Y Cardi Bach!

Y Niti-griti!

  • Hoff fwyd : Cinio cig eidion a yorkshire pudding
  • Hoff ddiod : Te Earl Grey
  • Hoff gar: Jaguar XK120 (mae'n gofyn am help ei gwr i ateb hwn!)
  • Hoff gân : Arglwydd Dyma Fi
  • Hoff ffilm : The Wizard of Oz
  • Hoff wyliau : Jamaica
  • Hoff le yn y byd : Sir Benfro

    Eich cwestiynau chi :
    Fe wnaethom e-bostio'r cwestiynau canlynol at Cerys Matthews, a dyma ei hatebion :

    Faint o gysylltiad sydd rhwng aelodau Catatonia erbyn hyn? (Gwawr lfan, Efailwen)
    Cerys Matthews : Rydyn ni'n iawn, diolch!

    Ydych chi'n gweld rhywbeth yn debyg neu yn wahanol rhwng Cymru a Nashville? (Catrin Jones, Baneyfelin)
    Cerys Matthews : Mae'r bobol i gyd yn gynnes ac yn down to earth yn y ddau le.

    Beth yw eich cyfrinach i gadw'n iach a llawn egni gan eich bod mor brysur, yn enwedig nawr bod un arall i ofalu amdano? (Rhoswen Llewellyn, Cwmfelin Mynach)
    Cerys Matthews : Dwi'n mynd i'r gym, yn bwyta'n iach ac yn darllen cylchgronau rwtsh weithiau hefyd!

    Nawr eich bod yn canu ar ben eich hunan, ydych chin gweld eisiau unrhyw beth am fod yn aelod o fand? (Sioned Wyn Evans, Cwmfelin Mynach)
    Cerys Matthews : Dw i ddim yn gweld eisiau dim byd fe fydd 17 ohonom ni ar y bws wrth i ni fynd ar y tour nawr hefyd.

    Oes unrhyw obaith i Catatonia ddod nôl at ei gilydd? (Gruffydd Ifan, Efailwen)
    Cerys Matthews : Na.

    Cyfweliad gan Cerys Bowen


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý