Penllanw'r flwyddyn wedi cyrraedd- yr ysgol wedi torri a'r steddfod ar y gorwel! Paratoi, golchi, smwddio, siopa, pacio dillad haul a welingtonau - rhag ofn! Edrych ymlaen gymaint, achos mai gog ydw i go iawn, yn dal i fod.Wedi siwrnai hir o Sir Benfro lan i fro'r chwareli - penderfynu mynd am sglods i G'narfon a'r rhai cynta' i ni gwrdd? Neb llai na'r Tuduriaid o Efail Wen ymhlith eraill o'r Preselau yn chwilio am Lloyd George, wps- Huw Owen ar y Maes.
Menyw'r bara o Landysilio yn llwyddo i edrych fel pin mewn papur wrth gloriannu a phawb arall ohonom yn fwd o'n corryn i'n sawdl! Beth yw'r gyfrinach Eilyr? Dau arall o Fro Gronw lwyddodd i osgoi'r mwd drwy droedio'n ofalus "W w, Cofiwch fod ise golygyddol i'r Cardi Bach mis nesa!" ..a dyna ddod â ni at ein coed! Sgwrs sifil wedyn gyda gweinidog lleol a'i draed yn rhyfeddol o lân - bu yntau'n troedio lonydd Bangor yn y 70au - ac anghofio ei longyfarch am ei ddyrchafu i'r orsedd. Llongyfarchiade Eirian!
Paned fach a chlonc ym mhabell yr enwadau - gyda hen ffrind o Rydwilym - Hafwen, fu'n fam i mi pan ddeuthum i'r de gyntaf yn '77 yn fy Mini Clubman- a phaned orau'r steddfod fu hi. Derbyn neges testun wedyn gan ei nai, y Meddyg Cerdd, ei fod am whare da Tecwyn heno yn Cofi Roc, er ei fod yn chwarae i ddysgedigion llawer pwysicach yn y Coleg ar y Bryn bob dydd!
Pasio pabell y brodyr dawnus o Aberteifi - Cwmni Fflach (Ody Pam wedi dod lan dybed?)-a chael bod dwy gryno-ddisg newydd mas' da'n hieuenctid ni'n hunen - wyrion Lil Rhydymerydd, Mefin a Margaret Cilowen- Garej Dolwen a hefyd grŵp y gŵr o Dre Deml- Templeton - a gipiodd ddwy wobr arall eleni am gyfansoddi - Steffan Messenger - Prif fachgen Ysgol y Preseli - Hacome- Prynwch nhw!
Fflach o wallt du fel y fran yn ei hanelu hi am y Pafiliwn tua thri dydd Gwener- Aled Gwyn wedd hwnna neu ei nai? -Cyn athro Cymraeg Bro Myrddin - Ydi e wedi ennill y Gadair ddwywaith?
Chwilio ym mhobman am Gomer - Ody 'Patshyn Glas' mas to? Cael mwy o wefr o ddarllen cerddi'r bardd o Fynachlog ddu o'u cael mewn print! Galw ym mhabell Cymdeithas Cerdd Dant Cymru am gopi o "Pwdin Penfro" erbyn yr ŵyl yn Abergwaun fis Tachwedd a chael y gŵr blewog o'r Preselau yn hysbysebu Gŵyl Dyffryn Taf 1993 ar ei grys!!
Y ferch o Ffynone'n hwyr i ymarfer olaf Côr Carnabwth - "Ble ma honna to?" - ac ar y gair rhedodd i mewn a'i gwynt yn ei dwrn a thlws siâp telyn arian hyfryd yn y dwrn arall yn wobr am ei llafur caled 'da Bois Aberystwyth.
Dathlu ymdrech "deilwng iawn" Y Côr, yng nghwmni mwy teilwng Ar Ôl Tri, ond ble aeth y delynores? Ar ôl cibab wedodd rhywun. Rheolwr Cwmni bysiau Jones Login a gwên lydan ar ei wyneb wedi dod i ganol y gogs i brofi peth o'r hud - yn ei fws? -Na ar ei Susuki - ond bu'n ddigon teidi i'w barcio to fas i'r iet whare teg.
Ife llais y bariton mwyn o Bant Glas neu enw hen ffrind ar frig rhestr cantorion Côr y Steddfod, neu'r cyfansoddwr ei hun oedd yn Athro Cerdd ym Mangor yn y saithdegau a'm denodd dros y wal i'r Pafiliwn Nos Fawrth i wrando ar y Gyngerdd wn i ddim. Wedi cychwyn yn gynnar, straen ar y galon yn llythrennol oedd bod mewn tagfa am tua thri chwarter awr ar gylchdro'r Faenol. Pobl yn trio mynd adref o'r steddfod ac eraill fel fi'n trio mynd i'r cyngerdd nos yr un pryd. Ife dyma'r tro cyntaf iddyn nhw drefnu steddfod gwedwch? Stiward fach garedig yn fy sicrhau nad oedden nhw am ddechrau ar amser ac yn fy arwain i'm sedd. Wedi talu deunaw punt, siom oedd sylweddoli fod y sedd ryw hanner dwsin o'r cefn! Dyna olygfa fendigedig o gantorion fu'n ymarfer am wythnosau i ddysgu a pherfformio'r gwaith - Teilo Sant o dan arweiniad deheuig Pat Jones, a fu ar un adeg yn arweinydd Côr Meibion Hendy Gwyn.
A dyna daro'r nodyn cyntaf- cerddoriaeth y byddwn yn ei adnabod yn unrhyw le - oherwydd ei arddull gwbl nodweddiadol o bumedau agored a chyfeiliant offerynnau taro mentrus- y Cyfansoddwr o'r Hendy Gwyn - William Mathias - o Gilhaul! Dilyn hanes Sant Teilo ar gerdd a chân ac adlais o gân ysgol Ramadeg Hendy Gwyn yn y cof - "Nyni o Siroedd Dewi"....ac atgofion am Mr Bancroft yn rhoi sioc ei bywyd i bwt o athrawes gerdd yn gwahodd y cyfansoddwr ei hunan i berfformiad yr ysgol o "Culhwch ac Olwen".
Bu'n llawer o ŵr bonheddig a daethom drwyddi. Tybed oes rhywun ag atgofion o'r perfformiad hwnnw? Er nad yw fy ngwreiddiau yma yn yr ardal teimlais ryw falchder rhyfedd fod y fro hon wedi cynhyrchu cerddor mor bwysig. Trueni na chafodd yr iechyd i fwynhau bywyd hirach ac i gyfansoddi mwy o glasuron.
Penderfynu cael diwrnod di-eisteddfod a'i beicio hi tua thre'r cofis - cael hwe fach yng Ngardd Fôn a chwrdda dau arall a gafodd yr un syniad - Enillwyr Tlws Coffa Syr T.H. Parry Williams y llynedd a chefnogwyr di-ail i bob eisteddfod a gŵyl - Mansel ac Eirlys. Eu cwrdda eto nos Wener - yn eu dillad dawns a methu credu taw'r un pâr oeddynt!Yng nghanol y gogs i gyd ar y maes - tafodiaith fras Nachlog Ddu yn treiddio i'm clustiau - Leonard Tŷ Cwta yn sŵn i gyd yn f'atgoffa o'r 'chydig wreiddiau sydd gen i tua'r Preselau.
"Wedi dod lan i weld be 'di mynyddoedd go iawn wyt ti Leonard? O'u cymharu â brynie bach y Preselau?""Hy...." meddai gŵr gogleddwraig orau'r Preseli "Ma ise ffenso yn gro's o Aberystwyth".
Wedi'r cystadlu hwyr nos Wener, cerdded yn unig i chwilio am y car a dod yn gyfarwydd iawn â stad y Faenol yng ngolau'r lloer. Dod ar draws dwy arall yn gwneud yr un peth - wedi bod yn y steddfod yn cefnogi'r Côr lleol - chwarae teg iddyn nhw - Yvonne ac Eira, a ffeindioch chi'r car? Neu a arhosoch chi dan y deri hyd doriad gwawr?
Gyrru'n wyllt i gadw'r teulu'n hapus i Landwrog a dod o drwch blewyn i gael tolc yn y car gan ryw yrrwr rali gwyllt a'i wallt yn ffliwch - wedi rhyw dair eiliad o dawelwch - y ddau ohonom yn edrych ar ein gilydd ac yn cyd-lefaru "Ife Tyrel we hwnna?"
Daeth terfyn ar yr Å´yl, a rhaid cyfadde mod i'n eitha balch o weld llyfnder y Preselau unwaith eto - ac mae'r cwesti yn dechrau fy mhoeni -'Ife gog ydw i go iawn?'
Tecwyn a Rhiannon Ifan