91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Paneli solar Paneli solar i ysgol gynradd
Mehefin 2008
Mae ysgol Tafarnspeit yn Hendygwyn yn cael paneli solar newydd fydd yn cynhyrchu ynni ar gyfer yr adeilad.

Mae Ysgol Tafarnspeit ar ei ffordd i fod yn flaenllaw yn yr ymgyrch Ynni Adnewyddol fel canlyniad i'r paneli solar a gafwyd ar ôl ei noddi gan y Grŵp Cyd-weithredol (Co-op).

Mae'r ysgol gynradd, gyda 205 o ddisgyblion, yn un o 100 ar hyd a lled Prydain, a'r cyntaf yng Nghymru i dderbyn y paneli £20,000, sy'n cael eu hariannu yn rhannol gyda chynllun Ynni Gwyrdd i Ysgolion a'r llywodraeth.

Dywedodd rheolwr y fenter, Melanie Phillips: "Fel adwerthwyr cymunedol, gyda phrofiad hir o ddefnyddio ynni, mae'n addas ein bod yn awr yn defnyddio'n arbenigrwydd ac arian i helpu'r ysgol leol hon i dorri lawr ar maint y carbon diocsid a gynhyrchir.

Bydd Ysgol Tafarnspeit yn gallu addysgu'r genhedlaeth nesaf am newid hinsawdd gan ddangos esiampl i ysgolion eraill a chartrefi yn Hendygwyn. Roedd y cymeriad lliwgar Sunny Solar yn bresennol gyda'r disgyblion a'r staff pan gafodd y paneli eu troi 'mlaen yn swyddogol ar ddydd Llun, Mai 19.

Bydd y 24 panel solar yma yn cynhyrchu tua 3,300kWh o drydan bob blwyddyn, digon o bwêr i gyfrifiadur ysgol am 33,000 o oriau, gwneud 180,000 cwpaned o de i'r athrawon sychedig, a thrwy hyn, arbed tua dwy dunnell o garbon diocsid.

Bydd y disgyblion yn medru cadw golwg ar faint o egni a gynhyrchir a maint y CO2 a arbedir, trwy sylwi ar y monitor yn yr adeilad. Mae'r disgyblion a'r athrawon yn croesawu'r paneli solar ar y to yn gynnes iawn.

Dywedodd Charlie Scan, Blwyddyn 6: "Bydd y paneli yn help i ni gasglu ynni mewn ffordd dda i'r amgylchedd. Ychwanegodd y prifathro, Kevin Phelps ei bod yn falch iawn i fod ymhlith yr ysgolion sy'n arwain y ffordd wrth gynhyrchu ynni adnewyddo trwy gynllun hael y Co-op.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý