"Fools rush in where angels fear to tread" yw'r hen ddywediad. Gellir arall-eirio hwn i "The brave rush in where angels fear to tread." Gobeithio nad ydw i'n ffwl ond dydw i ddim yn berson dewr chwaith!
Un o'r dynion dewraf, yn fy marn i, yw Bill Beales, Prifathro Ysgol Uwchradd Cwmcarn. Yn ystod y Gwasanaeth Boreol, soniodd am safonau moesol y ffydd Gristnogol wrth ei ddisgyblion gan ddweud ein bod fel pobl yn gwawdio rheolau Duw sydd wedi eu creu er budd a chyfiawnder i bawb.
Dweud y gwir heb flewyn ar ei dafod O'r diwedd mae rhywun wedi sefyll lan a dweud y gwir heb flewyn ar ei dafod ac, wrth gwrs, mae wedi tynnu nyth cacwn i'w ben.
Yn y lle cyntaf dim ond dilyn cyfarwyddiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol yr oedd fel Prifathro cydwybodol.
Dyma ddau o'r pwyntiau:* Helpu disgyblion i sylweddoli fod crefydd yn un o anghenion dyfnaf dynol-ryw, a bod yn ymwybodol fod yna elfen ysbrydol ymhob person unigol.
* Helpu meithrin gwerthoedd, safonau a moesoldeb.
Ie, safonau moesol; dyna wnaeth Bill Beales.
Yn ail, onid dyna mae arweinyddion crefyddol wedi ei wneud ers canrifoedd - dysgu gwerthoedd, safonau a moesoldeb a dangos y gwahaniaeth rhwng da a drwg i'w pobol?
Dirywiad cymdeithas Wrth ddarllen y papurau ac edrych ar y teledu, beth glywn ni - llofruddio, treisio, dwyn, ymosodiadau erchyll ar yr henoed; yfed, cyffuriau (17 o bobl ifanc wedi marw yn y Cymoedd o effeithiau cyffuriau); pedoffiliaid yn treisio plant; yr anfoesoldeb rhywiol a welwn ar y sgrîn; plant yn ymosod ar athrawon a'r twyllo sy'n digwydd, hyd yn oed yng nghoridorau grym y Llywodraeth a'r Cynulliad.
Onid ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bryd i rywun sefyll lan, yn enw Duw ac yn enw popeth sy'n lân a dyrchafol?
Roedd yr Iesu'n dangos i bobol bod eu ffordd o fyw yn anghywir ond gwnâi hynny mewn ysbryd o gariad a chonsrn, fel yn hanes Mair Magdalen a Sacheus.
Ceisio rhoi arweiniad Efallai fod Bill Beales wedi cael ei gondemnio am iddo enwi rhai carfanau penodol yn ein cymdeithas. Ceisio rhoi arweiniad yr oedd, i bobol ifanc nad oes ganddyn nhw ganllawiau moesol i'w cynorthwyo ar daith bywyd.
Ar hyd y canrifoedd mae 'na bobol ddewr wedi sefyll dros y gwir. Ar y pryd, cawsant eu gwawdio, eu hamharchu a hyd yn oed eu lladd, ond roedd y byd yn well lle oherwydd eu safiad. Yn fwy na thebyg fe gaiff Bill Beales y sac ond bydd ei gynghorion yn atseinio trwy feddwl ac eneidiau'r rhai sydd wedi clywed ei eiriau a'i gynghorion doeth.
Beth yw eich barn chi?Ebostiwch i ddweud gan roi Lleisiau Lleol yn bennawd i'ch llythyr.
|