Wedi llwyddiant taith Sbaen a Phortiwgal yn 2000, penderfynais i a gweddill Pwyllgor y Gymdeithas Gerddorol fod yr amser wedi dod i gael gwyliau arall, ac ar yr un pryd i ledaeni enw da Coleg Imperial ar draws Ewrop. Wedi penderfynu ar yr Eidal, dechreuwyd drefnu cyfres o gyngherddau mewn gwahanol ddinasoedd ac erbyn mis Gorffennaf, wedi misoedd o ymarfer, roedd pob dim yn barod a 60 o gerddorion eiddgar yn aros yn Stanstead i ddringo ar awyren, i hedfan i Treviso.
Wedi cyrraedd yr Eidal, fe lwython ni ein hunain a'n hofferynnau ar fws Paolo, ein gyrrwr, dim ond i ddarganfod ein bod un ffidil yn brin - honno ar gylchdaith i Glasgow, ond trwy lwc, doedd dim cyngerdd i fod am dridiau, felly roedd amser i'r ffidil gael ei hedfan i'r Eidal.
Treuliasom ein dyddiau cyntaf yn gweld y wlad - i dref Vicenza yn gyntaf. Mae'n dref Eidalaidd go iawn heb ei darganfod gan dwristiaid - pobl yn eistedd mewn caffes ar ymyl y piazza yn gwylio'r byd; adeiladwaith hynafol a phrydferth a digonedd i weld a gwneud.
Y diwrnod canlynol aethom ar daith i Fenis. Wedi dal y vaporetto i San Marco, fe ddechreuon weld yr ynys. Mae Fenis yn ddinas ryfedd - prydferth a hynod ond roeddwn i'n teimlo fod y lle fel rhyw fath o ffair anferth. Mae'n anodd dychmygu sut mae'r trigolion yn byw yno o ddydd i ddydd. Wedi dweud hynny, fe fwynheais y lle tu hwnt - dringo'r campanile, gweld Basilica San Marco ar piazza, palas y Doge, y Gran Canale a phont Rialto. Fe dreulion ni ddiwrnod llawn yn ceisio gweld cymaint â phosib cyn dal y vaporetto olaf nôl i'r bws.
Symud ymlaen i Bologna a'n cyngerdd cyntaf. Wedi ymarfer yn y prynhawn roedd gennym awr neu ddwy i weld y ddinas - dringo'r campanile, bwyta gelato y tu allan i'r Basilica yn y Piazza Maggiore e Neptune, ac fel myfyrwyr meddygol, ymwelsom a'r Brifysgol, un o'r hynaf yn Ewrop, i weld y theatr dyraniad (dissection) - y cyntaf yn y byd; yma yn y l5fed ganrif, dechreuodd myfyrwyr meddygol ddarganfod sut mae'r corff yn gweithio.
Yn ôl i Chuiesa Santa Maria ar gyfer y gyngerdd gyntaf, a phrofiad anarferol iawn i ni Brydeinwyr - roedd y gyngerdd yn yr awyr agored! Er bod adeilad dan do ar gael ar gyfer tywydd gwlyb, roedd y brif rhan o'r eglwys yn hollol agored ac yr oedd yn hyfryd i ganu o dan y sêr. Fel dechreuad i'n cyfres o gyngherddau, ni allen fod wedi gofyn am well, ac aeth pawb i'w gwelyau yn fodlon y noson honno.
Stop nesaf - Rhufain. Ro'n i wedi bod yn edrych mlaen i ymweld â'r ddinas dragwyddol, ac ni'n siomwyd. O amgylch pob cornel yn Rhufain, mae rhyfeddod newydd. Yr hynafol a'r newydd ochr yn ochr - cangen o McDonald's o fewn adfail Rhufeinig! Cawsom gyfle i weld y golygfeydd - Y Colisseum, y Forum, yr Hippodrome, y Pantheon, cofgolofn Vittorio Emannuel, y Fontana di Trevi ar Spanish Steps yn ogystal ag amser i siopa ac ymlacio mewn caffes a bwyta gelato.
Roedd ein cyngerdd y noson honno yn Eglwys All Saints gyferbyn â'r Spanish Steps, sef Eglwys Anglicanaidd Rhufain. Cawsom dipyn o syrpreis i weld yr Eglwys yn go llawn - roedd nifer o'r "ex - pats" wedi clywed ein bod i berfformio ac wedi dod i wrando, ac mi oedd fan club yn ein haros hefyd - roedd criw o fyfyrwyr o'r Coleg interrailio o amgylch Ewrop ac yn digwydd bod yn Rhufain yr un adeg a ni ac wedi dod i'n cefnogi Cafwyd perfformiad boddhaol iawn a chefnogaeth frwd!
Y diwrnod canlynol, ymwelsom â'r Fatican. Nid wyf erioed wedi gweld eglwys i gymharu â San Pietro. Mae nhw'n dweud fod y lle gymaint â phedwar cae pêl droed ac roedd fel petai popeth wedi ei orchuddio ag aur. Yna aethom i Amgueddfa'r Fatican a gweld yr holl drysorau - ystafelloedd Raphael, ac wrth gwrs Capel y Sistine a murlun y Greadigaeth. Fe'm siomwyd braidd gan y capel - does dim dwywaith fod y murlun yn gampwaith, ond fe sbwyliwyd y profiad i mi gan bobl arall a oedd yno yr un adeg. Gofynnir i bawb fod yn dawel a dangos parch, ond roedd pobl yn clebran ar dop eu lleisiau ac yn tynnu lluniau.
Yn anffodus, daeth yr amser i adael Rhufain a symud ymlaen i Fflorens. Buom yn sefyll mewn hostelau ieuenctid yr holl adeg yn yr Eidal, ar y cyfan llefydd digon pleserus i aros ac yn addas i ni fel grwp mawr, ond yn Fflorens roedd yr hostel yn arbennig, mewn Casa ar fryn, yn edrych dros y ddinas. Roedd yn le hyfryd - ty mawr hynafol mewn aceri o erddi a choedwig gyda golygfeydd ffantastig. Wedi cyrraedd Fflorens, penderfynais i a rhai o'm ffrindiau ein bod wedi gweld sawl dinas erbyn hyn, ond ychydig iawn o'r wlad, felly dyma ni'n cerdded i bentref bach Fiesole yn y bryniau y tu allan i Fflorens. Yno, fe dreuliais brynhawn a noson bythgofiadwy - roedd y golygfeydd dros fryniau Tuscany yn syfrdanol, a does dim gwell ffordd o'u mwynhau na gyda glasiaid o chianti, a gelato ac yfed yr heulwen a'r awyr las.
Cyn dychwelyd i'r Casa, fe ddarganfuom trattoria bychan ym mhentref Maiano lle cawsom bryd gwefreiddiol, a ni oedd yr unig dramorwyr yno. Ro'n ni'n teimlo ein bod wedi darganfod cornel bach or Eidal i ni ein hunain. Perffeithrwydd! Mwynhau pleserau Fflorens y bore canlynol - yr Uffizi a cherflun Dafydd, yr Arno ar Ponte Vecchio, a gerdd'r Bobili. Ac wrth gwrs y Duomo.
Yn y prynhawn roedd hi'n amser ymarfer oherwydd roeddem yn perfformio, y noson honno, yn Chuiesa Santa Maria Maggiore, Eglwys yn sgwâr y Duomo gyferbyn â'r Eglwys Gadeiriol. Wedi cyrraedd yno cawsom y newyddion eu bod yn cyhoeddi ein cyngerdd yn y Swyddfa Dwristiaeth fel prif gyngerdd corawl y noson. Prif gyngerdd cerddorfaol y noson oedd Cerddorfa Symffoni y Gymuned Ewropeaidd - cerddorfa broffesiynol yn cael ei hystyried yn yr un anadl â ni - côr amatur o fyfyrwyr meddygol! Hyd yn oed ar gyfer yr ymarfer, roedd yr eglwys yn llawn dop (mae'n arferiad yn yr Eidal i adael drysau'r eglwys ar agor yn ystod ymarfer, er mwyn i bobl ddod i wrando.) Cafwyd perfformiad gwefreiddiol a phan ddaeth yr amser i ganu'r 'Magnifica', roedd y buzz yn y Côr a'r gynulleidfa yn rhyfeddol. Ro'n i'n un o'r unawdwyr, yn canu Solos yr alto. Canodd y Côr y 'Magnifica' fel erioed o'r blaen. Wrth ganu'r cordiau olaf, roedd y gynulleidfa ar eu traed. Profiad bythgofiadwy!
Wel, yn anffodus, roedd ein taith i'r Eidal bron ar ben. Treuliasom ddiwrnod yn Ninas Prifysgol Padua cyn dychwelyd i Treviso a ffarwelio â'r wlad hynod hon gyda llawer o atgofion melys a phwys neu ddau ychwanegol o amgylch y bola!
Dyma'r tro cyntaf i mi ymweld â'r Eidal a dwi'n methu aros i ddychwelyd yno.
Mae'r Gymdeithas Gerddorol yn bwriadu teithio, y flwyddyn nesaf, i'r Unol Daleithiau - i Efrog Newydd, Washington D.C a Boston ond yn anffodus (neu yn ffodus) byddaf yn ddoctor erbyn hynny ac wedi gadael y coleg. Rwyf braidd yn siomedig i golli ma's ar daith arall gyda'r gymdeithas, wedi mwynhau hon gymaint, ond rwy'n gobeithio bydd y ffaith mod i'n gweithio (wedi chwe mlynedd fel myfyriwr) yn gwneud lan am hyn.
Gan : Dr. Non Davies,Pwlltrap