Diolch i Wyn Siop y Pentan Chwefror 2009 Mae Wyn Thomas wedi penderfynu ymddeol o'i waith fel rheolwr Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin ar ôl 37 o flynyddoedd.
Ar ôl 37 o flynyddoedd o wasanaeth clodwiw i fywyd 'y pethe' yn nhref ac ardal Caerfyrddin, fe fydd Wyn Thomas, Siop y Pentan yn trosglwyddo'r awenau'n fuan i Andrew (mab Nancy a fu'n gweithio yn y siop am gyfnod hir iawn) a Llio Silyn.
Nhw fydd yn gofalu bod y siop a'r gwasanaeth Cymraeg a Chymreig a gynigir yn parhau'n rhan o'r farchnad newydd ymhen rhyw ddeunaw mis.