91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Dai Davies (Llun: NFU) Llywydd newydd i'r NFU yng Nghymru
Chwefror 2006
Mae Dai Davies, ffermwr llaeth o Sir Gaerfyrddin, wedi ei ethol fel llywydd newydd NFU Cymru, gyda Edmund Bailey ffermwr Da byw o Ddyffryn Ardudwy wedi ei apwyntio fel Is-lywydd yr Undeb.
Etholwyd Dai Davies a Edmund Bailey mewn cyfarfod Cyngor ym Mhencadlys NFU Cymru ar faes y sioe yn Llanelwedd. Ar ôl cael ei ethol, fe dalodd Dai deyrnged i Peredur Hughes am ei waith caled fel llywydd NFU Cymru yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Meddai Dai Davies, "Mae hi wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i mi weithio gyda Peredur Hughes yn ystod fy nghyfnod fel is-lywydd yr Undeb, a rwy'n dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol".

Yn ystod ei ddwy flynedd fel llywydd NFU Cymru, disgwylia Dai, sy' n berchen ar fferm laeth 360 acer, a Chwmni Gosod Tai ger San Clêr, weld ffermwyr a phroseswyr llaeth yn parhau i ddod at ei gilydd. Mae nifer o ffermwyr yn eu 50'au yn meddwl o ddifrif am eu dyfodol", meddai.

Ddwy flynedd yn ôl, dechreuodd Dai bartneriaeth gydag un o'i weithwyr, Anthony Jones, o dan yr enw Fenni Farms. Mae Anthony a Dai yn derbyn cyflog o'r busnes sy'n gyfatebol a'r nifer o oriau mae nhw'n ei weithio a maent hefyd yn rhannu unrhyw elw o'r fferm.

Mae gan Dai ddwy ferch sydd yn byw yng Nghaerdydd, ond gan nad oes diddordeb ganddynt yn y fferm, cred Dai mai'r bartneriaeth rhyngddo ef ac Anthony yw'r opsiwn gorau i bawb. "Oni bai am bartneriaeth, byddai wedi bod yn amhosibl i mi weithio fel Is-Lywydd NFU Cymru dros y bedair mlynedd diwethaf," meddai.

Wedi iddo glywed ei fod wedi ei ethol yn Is-lywydd yr Undeb am y ddwy flynedd nesaf, dywedodd Edmund Bailey; "Mae gen i lot i ddysgu am fy rôl newydd a rwy'n gobeithio'n fawr bydd y cydweithrediad rhwng Dai a minnau yn gwneud cymaint dros yr Undeb a wnaethpwyd gan y tîm llywyddol diwethaf. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y sialens o fod yn Is-lywydd NFU Cymru."

Emma Evans (NFU)

Rydym fel ardal yn ymfalchïo yn llwyddiant Dai ac yn dymuno'n dda iddo.
Erthygl o bapur bro Y Cardi Bach.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý