Y mis hwn, tro Buddug Nelson, Llangynin yw hi.Bod yn ifanc yn Sir Gâr
Er i mi gael fy ngeni yn Kalabo (Zambia) ac wedi byw yng Nghaerdydd, Llundain ac Alvor (Portiwgal), does dim lle gwell i fyw 'na Sir Gâr. Rydym yn ffodus i gael traethau di-ri a golygfeydd prydferth sy'n newid gyda'r tymhorau ar stepen ein drws. Lle braf i fyw ond ai dyna beth sy'n bwysig i'r ifanc? Ai lle prydferth i bobl ymddeol yn unig yw Sir Gâr?
Edrychaf o'm hamgylch i ddarganfod bod fy nghenhedlaeth i wedi symud o'r ardal am amryw o resymau, yn cynnwys prinder swyddi addas, prisiau tai afresymol a diffyg cyfleoedd i gymdeithasu. Mae'r trefi yn elwa ar gael yr ifanc yno ond beth am gefn gwlad? Beth yw dyfodol ein cymdeithasau, pwyllgorau a chynghorau cymunedol ni heb yr ifanc? Ydy cefn gwlad yn barod i gynnal brwdfrydedd yr ifanc neu ydy'r gymdeithas wledig yn ceisio diffodd y fflam?
I dalu am y tai, rhaid cael swydd go dda - mae'r swyddi sydd ar gael o fewn y sir yn amrywiol ond efallai bod rhaid i ni ddysgu sgiliau newydd. Pan wnes i raddio mewn Amgylchedd a methu cael swydd yn lleol, penderfynais ar ôl cyfnod o weithio mewn gwahanol feysydd, ail gydio yn fy addysg a gwneud gradd mewn nyrsio. Roedd gen i'r cyfle i wneud hyn a dyw hyn ddim yn bosib i bawb, ond mae bron yn hanfodol bod gennych sgiliau amrywiol i weithio yng nghefn gwlad - fel y medrwch droi eich llaw at unrhyw beth.
Mae rhai pobl ifanc wedi penderfynu aros yn ein plith i fod yn rhan o'r gymdeithas, a diolch byth am hyn.
Credaf bod dyfodol disglair i ni yr ifanc o fewn y sir gan bod mwy a mwy o gyfleodd i gymdeithasu gyda phobl yr un oedran ac o fewn cymdeithas Gymreig. Mae Menter Taf Myrddin wedi, ac yn dal i feithrin cysylltiad agos â'r ysgolion o fewn yr ardal er mwyn cynnal gweithgareddau i'r ifanc, fel gweithdai cerddoriaeth. Hefyd, mae criw o bobol ifanc wedi bod yn sefydlu nosweithiau CWRWgl, sef gigiau misol yng Nghlwb y Quins, Caerfyrddin - cyfle i gadw fyny gyda cherddoriaeth Gymreig a chymdeithasu!
Nôl ym mis Mehefin, sefydlwyd Côr Seingar yng Nghaerfyrddin i bobl oedran 18 - 40 mlwydd oed, ac er mai canu yw'r nod, mae'r cymdeithasu jyst mor bwysig! Mae'n mynd o nerthi nerth, a chofiwch ei gefnogi trwy fynd i'r cyngherdau neu ymuno eich hunan!
Mae sefydliadau megis y ffermwyr ifanc wedi llwyddo i gadw plant a phobl ifanc cefn gwlad mewn cysylltiad â'i gilydd, a magu hyder yn eu sgiliau. Ymunais â chlwb pan yn ifanc, ond ces i ofn pan ofynnwyd i mi gystadlu yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus - dwi heb fod nôl ers hynny!
Mae 'na lot o newidiadau wedi digwydd o fewn ein cymunedau - rhai da a rhai sydd ddim mor dda - ond edrychaf ymlaen at ddyfodol hapus mewn ardal arbennig iawn. Mwynhewch prydferthwch y wlad bob dydd. Mae mor rhwydd i gymeryd y pethe' bychain yn ganiataol ond yw e'?
Dan ofal Prosiect Papurau Bro