"The hills are alive with the Sound of Music....... a Mozart"' yn Awstria!! Ymddiheuriadau yn gyntaf fod yr erthygl y mis yma yn fyr, ond dw i'n cael problemau gyda Vincent (typical dynion!) felly mae'n flin gen i ond nid oedd sgwennu i'r Cardi Bach ar dop fy rhestr o flaenoriaethau.
Gwlad yn fyw o gerddoriaeth, celf a chopaon mynyddoedd, ffilm enwog Julie Andrews The Sound of Music, heb anghofio Mozart! Vienna. Beth alla i ddweud ond enfawr! Hynny yw, enfawr o ran maint ac o ran adeiladau. Roeddwn i'n teimlon ofnadwy o fach wrth gerdded y strydoedd a'r holl adeiladau anferth hyn o'm cwmpas, yn cynnwys yr Eglwys Gadeiriol, Stephansdom, y palas-Hofburg a'r Scloss Belvedere, dim ond i enwi ychydig ohonyn nhw.
Ces i ddiwrnod pleserus yn cerdded trwy'r Nacshmarkt, ble maen nhw'n gwerthu llysiau, ffrwythau a bwyd o bob math, ychydig o stondinau dillad a gemwaith (r'on i wrth fy modd fel y gallwch ddychmygu!) a'r fleamarket. Mwynhau m'as draw yn gweld yr holl bobl, yr aroglau amrywiol o'm cwmpas a'r prysurdeb arferol ar fore Sadwrn.
Ces i'r cyfle i fynd i'r Secession Building ble ces i gyfle i edmygu llun enwog Gustav Klimt o'r enw Beethoven Frieze. Hefyd ces i amser bendigedig yn treulio ychydig oriau yn cerdded o gwmpas Kunst Haus Wien amgueddfa / ty; a gynlluniwyd gan Friedensreich Hundert Wasser i arddangos/cadw ei waith ei hun. Anodd esbonio sut dy oedd hwn a'r math o luniau oedd ynddo, ond yma roedd toiledau mwya bendigedig dw i wedi'u gweld ar fy nhaith hyd yn hyn - unigryw iawn!!
Mae'n rhaid i mi gyfaddef na chefais i'r un pleser yn Salzburg, falle oherwydd mod i ddim yn ffan mawr o Mozart, ac fel y gallech ddisgwyl roedd cyfeiriadau at y cyfansoddwr enwog ym mhobman yn y ddinas, a nifer o siopwyr yn ceisio gwneud ceiniog neu ddwy drwy werthu nwyddau ym ymwneud ag e. Roedd na bersawr wedii enwi ar ei ôl e, hyd yn oed! Ond fe wnes i fwynhau fy niwrnod yn cerdded i lawr stryd enwog Getreidgase, ble mae arwyddion y siopau i gyd mewn steil unigryw allan o haearn, hyd yn oed arwydd McDonalds.
Ein galwad olaf yn Awstria oedd Innsbruck. Doeddwn i ddim yn meddwl rhyw lawer am y ddinas, ond fe welais i'r enwog Goldess Dachl. Ond fy hoff ardal yn y wlad oedd Hallstatt ac ardal Salzkammergut (ardal y llynnoedd.) Mi roedd gyrru o un pentref i'r llall yn Vincent yn hamddenol ac yn hwylus, gan stopio nawr ac yn y man i weld hyfrydwch yr ardal ac i glywed ..... dim! Gallech chi fod wedi clywed pin yn cwympo tra roedden ni yn ymweld â Hallstatt.
A nawr dw i wedi cyrraedd yr Eidal, a bobl bach dw i'n gobeithio y bydda i'n fyw i sgwennu i chi fis nesaf, oherwydd mae gyrwyr yr Eidal yn ..... hollol bananas!!
Wedi galw ym Mologna, ymweld â Phompeii a Mynydd Vesuvius, a nawr dw i wedi cyrraedd Sicily, ble mae Vincent yn sâl (ond stori arall yw honno). Digon yw dweud mod i'n nabod nifer o fecanics garejys V W gore'r Eidal, ac nid ma's o ddewis! A dw i mewn cariad â Fflorens - y ddinas hynny yw!
Mi gewch fy hanes yn Rhufain y mis nesa, ble mae TJ a Rhiannon (mam a dad) yn dod ma's i'm gweld i am wythnos (byddan nhwn siwr o ddod â chopïau o'r Cardi Bach i mi.)
Pob lwc i bawb o ardal y Cardi Bach yn Eisteddfod yr Urdd. Dw i wedi bod yn cael newyddion yr Urdd trwy ymweld â'r wefan - da iawn Eurfyl!
Gobeithio bod trigolion Llangynin a darllenwyr y Cardi Bach yn cadw'n iawn. '
Ciao,
Eleri