Pan ddaeth gweinidog ifanc newydd a' i wraig i'r ardal hon, i wasanaethu Eglwys Henllan Amgoed yn Medi 1966 - 40 mlynedd yn ôl, ychydig a feddyliodd yr un ohonom pa mor fawr fyddai'u dylanwad, trwy eu gweithgarwch amrywiol yn y fro a thu hwnt. Bu arhosiad Y Parchg. Aled Gwyn a'i wraig, Menna, ym mro'r Cardi Bach, yn destun llawenydd ac atgofion hyfryd.
Gyda thristwch mawr felly, y clywsom am farwolaeth Menna ar Ebrill 6, ar ôl dioddef afiechyd creulon. Brwydrodd ar hyd ei hoes yn erbyn poen, yn ddi-rwgnach a gyda gwên ac edrychai bob amser yn osgeiddig a swynol (os dyna'r gair am glamorous) Ymladdodd ei brwydr olaf yr un mor ddygn a dewr.
Roedd Menna yn ferch amryddawn, ddiwylliedig a galluog. Bu'n athrawes yn Ysgol Pantycaws am rai blynyddoedd, nes ymunodd Non a Rolant â'r teulu. Hi ddechreuodd Cangen Hendygwyn o Ferched y Wawr (1970) a hi hefyd a sefydlodd Cylch Meithrin yn ei chartref, tua 1972, cyn i'r Cylch symud i Ganolfan Ffynnonwen.
Yr adeg yma hefyd, roedd criw mawr o ieuenctid yng Nghapel Henllan a bu Aled a Menna yn arweinyddion gwych i'r bobl ifanc yma. Bu' n cymryd dosbarthiadau nos i Ddysgwyr, yn Ysgol Griffith Jones ac Efailwen - nid oedd pall ar ei gweithgarwch.
Yn ddiweddarach, bu'n actio rhan nyrs ym Mhobol y Cwm a dramâu eraill; cyflwynydd gyda'r B.B.C.; cynhyrchydd 'Wythnos i'w Chofio' a 'Beti a'i Phobol' a chofiwn ei llais melfedaidd yn cyflwyno miwsig clasurol yn gynnar ar fore Sul. Cerddoriaeth oedd ei chariad cyntaf.
Yn bwysicach fyth, bu'n fam arbennig i Non a Rolant ac fel y nodwyd yn y `Western Mail' yn fam-gu lawen i'w hwyrion. Cofiwn am ei thor-calon ar ôl colli Gwennan a pha mor ofalus y bu hi ac Aled o'r roces fach yn ei salwch trist. Trwy'r cwbwl, cadwodd ei hysbryd yn felys, ei ffydd yn gadarn a'i hiwmor yn fyrlymus.
Dywed adnod yn y Beibl, "Byddwch lawen a hyfryd" a dyna fel bu Menna. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf fel ardal i Aled a'r teulu, gan gofio pa mor ffyddlon a gofalus y bu yntau ohoni, yn enwedig yn ei blynyddoedd olaf.
Boed i Dduw fod yn gysgod ac yn gysur iddynt i gyd. Trysorwch eich atgofion hyfryd amdani. Margarette Hughes a Rhoswen Llewellyn
|