Taith a arweiniwyd gan Rees Thomas o Lysmyrddin gynt, ond sy'n byw ym Mhenygarn, ger Aberystwyth, ers blynyddoedd bellach. Ar y daith hefyd `roedd Anne (Jones, Isgoed, Hendygwyn, gynt) y ddau yn gyn ddisgyblion o'r hen ysgol Ramadeg, a dyma ei chofnodion hi o'r daith:
Bu taith Ebrill 8fed yn un yr edrychais ymlaen ati oherwydd y cyfle a roddai i mi fynd 'nôl i ardal lled-gyfarwydd, ac efallai i weld ambell wyneb cyfarwydd hefyd. Ni'm siomwyd! Daeth llawer ynghyd i faes parcio Jones Login a Rees wedi trefnu bod ei gefnder Arwel, a sefydlodd y cwmni, yn mynd â ni i Efailwen mewn bws moethus i ddechrau'n taith.
Ein prif amcan oedd cerdded rhan o lwybr newydd y Lansger, sef llwybr sy'n dynodi'r ffin rhwng y Sir Benfro Gymreig, Cymraeg ei hiaith i'r gogledd, a'r Sir Benfro Seisnig, "down below" fel y dywedem, yn y de. Rhyw ffin ddychmygol yw hi, ond ffin sy'n hollol amlwg hefyd, gyda cestyll a chaerau ac eglwysi tyrrog yn britho'r de, a'r gogledd rhywffordd yn llai gorchestol. 'Roedd y Llychynwyr wedi ymsefydlu yn y de, yn wir, hen air Llychynaidd yn golygu "ffin" yw Landsker. Wedyn daeth y Normaniaid gan wthio'r Cymry ymhellach i ogledd y sir, ac ymsefydlu eu hunain ar dir ffrwythlon yr arfordiroedd, ac adeiladu eu cestyll i wneud yn siŵr o'u goruchafiaeth.
Beth bynnag, fel y dywedais, gyda Jones Login y dechreuodd ein taith, a chawsom hanes twf y cwmni gan Rees. Ar ôl disgyn yn Efailwen cawsom gipolwg ar garreg Beca, y garreg sy'n gofeb i'r gwrthryfel yn erbyn gorthrymderau cymdeithasol y cyfnod, ac yn cofio chwalu'r iet gyntaf yn yr ymgyrch yn erbyn y tollau ar y ffordd - sumbol o'r dioddef.
Wrth i ni fynd ymlaen wedyn, yr ochor arall i'r ffordd ac ar draws y caeau, `roedd gogoniant y Preselau o'n blaenau. Foel Cwmcerwyn, Cam Siân, Foel Feddau, `Carmine' Foel Drigarn a'r Frenni Fawr i gyd yn ymestyn am filltiroedd o'r gorllewin i'r dwyrain yn un arch o unigeddau ysblennydd, pob un yn dweud ei stori. Mae gweld eu gogoniannau yn ysbrydoliaeth unrhyw amser.
Cerdded ymlaen dros gaeau, trwy elltydd a chymoedd prydferth, â'r afon Cleddau Ddu oddi tanom, gan fynd heibio olion ambell gware, a chael eu hanes gan Rees a John Evans (brawd Russell) - bu mynd mawr ar lechi'r Preseli mor bell `nôl â'r drydedd ganrif a'r ddeg, - ac fe'u defnyddiwyd ar doiau sefydliadau pwysig fel rhai o'n colegau prifysgol, eglwysi mawr, yma a thramor, a hefyd y Senedd-dy yn Llundain - erbyn heddiw, ar ôl cyfnod hir o grebachu, maent wedi cau ers blynyddoedd.
Cyn hir daethom at gapel Rhydwilym ac yma yn ein cwrdd 'roedd Russell Evans, a fagwyd ar fferm gerllaw, ac mae yn dal i ffermio yn yr ardal. Mae hefyd yn ysgrifennydd y capel, a chawsom hanes ei sefydlu ganddo. Er bod achos wedi ei sefydlu yn Ilston, Bro Gwyr, cyn Rhydwilym, mi oroesodd, felly y mae'r achos yma yn un pwysig yn hanes Cymru. Sefydlwyd yr achos gan William Jones, offeiriad Cilymaenllwyd, ar ôl iddo gael ei dorri allan gan yr Eglwys. Bu'r achos yn llewyrchus o dan ei arweiniad, o 1668 tan i'r adeilad cyntaf ei godi yn 1701. Wedyn bu ail-adeiladu fwy nag unwaith, ac mae'r hanes ar faen yng nghyntedd y capel presennol. Rhoddwyd y tir gan John Evans, Llwyndwr; yn of E G Bowen, yn "Nhrafodion Cymdeithas Bedyddwyr Cymru", ef oedd yr unig `gentleman' ymhlith y 33 o aelodau cynnar, pobl cyffredin, dinôd oedd y rhan fwyaf.
Mae'r capel mewn man hyfryd, cysgodol ar waelod y cwm, a'r afon Cleddau Ddu yn rhedeg yn dawel wrth ymyl. Mae yna hen bompren, ond erbyn heddiw, bont newydd sy'n ei chroesi, ac mae'r pwll bedyddio wrth ei hymyl. Daeth Rhydwilym yn fam eglwys i ddeunaw o eglwysi eraill, a cododd sawl pregethwr enwog, yn eu plith E Llwyd Williams, o fferm "Y Lan" i'r weinidogaeth. Yn ei lyfr "Crwydro Sir Benfro" mae'n sôn yn annwyl iawn am fro ei fagwraeth. 'Rwyf innau wedi dibynnu ar ei wybodaeth, a dyfynnaf un o' i benillion i'r fynwent
"Mae swn yr afon Cleddau
Yn canu'n dragywydd mor agos i'r beddau".
Ysgrifennodd Llwyd Williams hefyd "Rhamant Rhydwilymn", ond bu farw'r bardd a'r pregethwr poblogaidd hwn yn 1960, cyn cyhoeddi ei ail gyfrol ar "Crwydro Sir Benfro". Diolch ei fod wedi ei ysgrifennu.
Ar ôl bwyta'n cinio wrth wal y capel neu ar lan yr afon, aethom ymlaen heibio'r fynwent newydd - lle y gorwedd Llwyd Williams 'nawr - i fyny'r rhiw serth trwy gallt arall ac allan heibio Llwyndwr - cartref y `gentleman' a roddodd y tir i godi'r capel. Bu'n dŷ tri llawr hardd yn ei ddydd mae'n siŵr, ond mae'n dirywio erbyn heddiw, er bod ôl ffermio da ar y tir.
Cerdded ymlaen, a chyrraedd Felin Ficer, safle hen felin ar lan yr afon, ac oedi yma eto i fwynhau'r heddwch. Ymlaen ar hyd hewl wedyn ac anelu am Eglwys Llandysilio i gael peth o'i hanes ac i edrych o'i chwmpas. Ymgysegrwyd eglwys i Sant Tysilio tua'r chweched ganrif, ond mae cerrig diddorol iawn yn wal yr eglwys yn dangos bod Cristnogion yn yr ardal mor gynnar â'r bumed ganrif. Mae ysgrifen Ogam ar bedair carreg sydd bellach yn wal allanol yr eglwys, â'r ysgrifen hwnnw'n dal yn glir ac yn ddarllenadwy (o ddeall Ogam! !) hyd heddiw.
Un darn arall o gerdded oedd o'n blaenau 'nawr, sef `nôl ar hyd yr hewl i faes parcio Jones Login. Aethom heibio hen gartref Rees, Alltfach, a chawsom y stori drist ganddo sut y bu'r lle fynd ar dân pan oedd yn ifanc ac i'r teulu golli eu heiddo i gyd, ond yn fendithiol ni gollwyd unrhyw fywydau gan fod ei dad a'r bechgyn i ffwrdd am y dydd, a'i fam a'i chwiorydd i lawr yn Nimbych y Pysgod ar wyliau.
Aethom heibio fferm Waunfach a chawsom hanes sut arferai'r ffermwr yno, 'nôl ynghanol y ganrif olaf, ddanfon eu "churns" llaeth allan i'r "stand" ar hyd weiren a "pulley" bob yn un! Tipyn o gamp, ac angen tipyn o nerth bôn braich!
Daeth ein diwrnod i ben yn y maes parcio. Bu'n ddiwrnod difyr iawn, ynghanol y cymoedd a gelltydd prydferth syn rhan mor nodweddiadol o'r rhannau yma o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, â'r cwbwl yng ngolwg y Preselau. Bu'n gyfle i mi hefyd i gwrdd ag ambell hen gydnabod, sef Anne Phillips, Ffosddufach (ond Y Moor gynt, nad oedd yn bell iawn o fy nghartref yn Iscoed). Cefais gyfle hefyd i gwrdd a lestyn Jones-Evans a'i wraig, wedi dod yr holl ffordd o Ddinbych - 'roeddwn innau'n cofio ei frodyr hŷn Dafydd a Geraint, ac yn arbennig yn cofio Dafydd yn cipio pob gwobr am ganu fel `boy soprano' yn eisteddfodau'r ardal!
Bu'n ddiwrnod bendigedig. Mae pob un o deithiau'r Gymdeithas yn fodd i weld a dysgu rhywbeth newydd, boed byd natur neu fyd hanes, ac mae'r cerdded bob amser yn ddigon hamddenol i'n galluogi i sgwrsio wrth gerdded!! Felly cyfle i ddod i adnabod rhyw ddarn bach o Gymru yn ogystal a gwneud ffrindiau. Mwynheuais innau'r daith yn fawr. Diolch i Rees.
gan Ann Gwynn (Jones gynt).