Cynhaliwyd y seremoni agoriadol swyddogol gan Jenny Randerson AC, ar nos Wener, Hydref 4, 2002. Mae'r Ganolfan, sy'n cynnwys 12 o weithdai crefft, neuadd arddangos a bwyty, eisoes wedi denu nifer o grefftwyr ac arlunwyr lleol, ac yn eu plith mae Llinos Mair o gwmni Celtes.
Hyd yn ddiweddar, cynnig gwasanaeth dylunio ffrilans i gwmnïau dwyieithog yn Sir Gaerfyrddin oedd Llinos Mair, a hynny o'i chartref yn Llangynin.
Creu anrhegion Cymreig Erbyn hyn mae ganddi gasgliad o anrhegion Cymreig yn seiliedig ar ferched chwedlonol Cymru. Mae'r anrhegion, sy'n cynnwys pot pourri, canhwyllau, cardiau, a dillad, yn rhoi cyfle i eraill ddysgu am y chwedlau ac am gymeriadau fel Arianrhod, Blodeuwedd a Rhiannon - merched arwrol, merched hudolus. merched prydferth.
Mae'n defnyddio dulliau traddodiadol i greu cefndir pob llun. Wedi i hwnnw gael ei sganio mae'r cymeriad yn cael ei ychwanegu yn ddigidol.
Fe wnaeth arddull drawiadol Llinos Mair ddal sylw Mairwen Prys-Jones, Cyfarwyddwr Cyhoeddi, Gwasg Gomer, ac o ganlyniad cyhoeddwyd Celtic Heroines, llyfr sy'n cynnwys deg o ddarluniau Celtes.
|