Fe gurodd ddegau o bobl eraill i ddod yn gyflwynydd teledu yn Eisteddfod Casnewydd 2004. Roedd 91Èȱ¬ Cymru wedi bod yn chwilio led led Cymru am gyflwynwyr addawol i'w datblygu, a daeth Owain ynghyd â thri arall i'r brig gan ennill y cyfle i gyflwyno ar raglenni 91Èȱ¬ Cymru o'r 'Steddfod, ochr yn ochr â chyflwynwyr sefydledig fel Huw Llywelyn Davies a Lisa Gwilym. "Roedd yn grêt", meddai'r crwt byrlymus, a roddodd ei enw ymlaen ar gyfer cystadleuaeth Talent 91Èȱ¬ Cymru yn Eisteddfod yr Urdd, am nad oedd ganddo 'ddim gwell i'w wneud'. Roedd rhaid iddo gyflawni gwahanol bethau, gan gynnwys cyfweld Dafydd Du a rhoi tro ar gyflwyno, cyn cael ei ddewis i gyflwyno o'r Eisteddfod Genedlaethol. "Mi wnes i gyflwyno eitem ar yr holl wyliau a digwyddiadau sydd ar ôl yr haf yma a cheisio cael pobol i fynd draw iddyn nhw". O'i holi am ei ddiddordebau, mae'n dod yn amlwg bod Owain yn ddifrifol a brwdfrydig am ei ddiddordeb yn y cyfryngau. "Fi wedi bod yn gweithio i Gwmni Telesgop ers tua dwy flynedd, i gael profiad, a roeddwn i'n gweithio yn y Sioe Frenhinol fel rhedwr ac yn ceisio cael gymaint o 'dips' ag y gallwn i, gan bobol fel Amanda Protheroe-Thomas a Nia Ceidiog. "Roedd y cyfle roddodd Talent 91Èȱ¬ Cymru i fi, yn gyfle hollol grêt i fynd o flaen y camera, sy'n gweddu'n well i fi achos sai'n gallu stopio siarad. Dyna pam mae'n well 'da fi o flaen y camera. "Mae'r profiad wedi dysgu llawer i fi am bethau fel y derminoleg sy'n cael ei defnyddio, a llwyth o bethau technegol". Ond er ei frwdfrydedd, ac yn awr ei brofiad, fe fydd Owain (adawodd Ysgol Bro Myrddin yr haf hwn) yn cymryd hoe o'r cyfryngau am ychydig, i wneud gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Warwick. Ond wedi iddo raddio, pwy a ŵyr ... Cyfreithiwr y cyfryngau ?
|