Roedden nhw yno fel rhan o ddirprwyaeth o'r Senedd Ewropeaidd i gyfarfod cynrychiolwyr o'r awdurdodau Israelaidd a Phalesteinaidd, gan gynnwys arweinydd y Palesteiniaid Yasser Arafat. Yn yr erthygl hon mae Jill Evans yn sôn am rai o'u profiadau.
Mae rhai profiadau yn llwyddo i newid eich bywyd ac roedd fy ymweliad diweddar â Phalesteina ac Israel yn un ohonyn nhw.
Ymweliad pedwar diwrnod Roedd dirprwyaeth o dri ohonom o Blaid Cymru - fi, Eurig Wyn ASE a Geraint Davies Aelod Cynulliad y Rhondda - ar ymweliad pedwar diwrnod yno yng nghwmni gwleidyddion o wledydd eraill yn Ewrop. Fe fydd y golygfeydd o dlodi, trais, creulondeb a difodiant yn aros gyda mi am byth.
Fel ymgyrchydd dros heddwch ers amser hir a Chadeirydd CND Cymru, roeddwn yn meddwl fy mod i'n gwybod beth i'w ddisgwyl ar y Lan Orllewinol. Roeddwn yn anghywir. Ni allai dim fod wedi fy mharatoi ar gyfer y golygfeydd dirdynnol a'r dicter a'r teimladau a ddaeth drosof wrth weld yr anghyfiawnder a ddioddefodd pobl Palesteina.
Cafodd hyn ei gyfleu orau imi gan eiriau Maer Bethlehem a gwrddais drannoeth ar ddiwedd y gwarchae ar Eglwys yr Preseb. Dywedodd bod yr Israeliaid wedi dod i Fethlehem i ddifa nid yn unig sefydliadau'r wladwriaeth Balesteinaidd ond hefyd fywydau'r dinasyddion mewn ymdrech i dorri eu calonnau a'u brawychu.
Y niwed gwaetha, meddai, oedd y niwed anweledig: y chwerwder a'r llid sy'n troi plant diniwed yn fomwyr hunanaberthol.
Torri ysbryd y bobol A dyma a welsom ni ymhobman - fandaliaeth a chwalfa a fwriadwyd i dorri ysbryd y bobol. Yn Balatha, gwersyll mwya'r ffoaduriaid ar y Lan Orllewinol, gyda 20,000 o breswylwyr, cafodd tai eu chwalu gan adael 250 o deuluoedd yn ddigartref, a gan ddifa'r is-adeiledd sylfaenol.
Y gair a ddefnyddiwn yw 'gwersyll' ac er bod pebyll yma ac acw i'r sawl sydd wedi colli'u cartrefi, mewn gwirionedd mae nhw'n debycach i ganol dinasoedd. Mae poblogaeth Balatha'n tyfu'n gyflym ac fe ddywedir nad yw wedi gweld un dydd heddychlon yn ystod ei hanes. Dyma lle cychwynnodd ymosodiad diweddar yr Israeliaid a rhoddwyd gwarchae ar y preswylwyr am chwe wythnos ym mis Mawrth.
Colli pob ffydd Yma hefyd y clywsom gyntaf rieni yn mynegi eu gofidiau am y bobol ifanc oedd wedi colli pob ffydd yn y broses heddwch.
Yn y gwersyll sydd bellach yn adnabyddus sef Jenin, roedd ardal gymharol eang wedi ei chwalu i'r llawr.
Defnyddiodd Mr Ahmed Qurie, Llefarydd Awdurdod Deddfwriaethol Palesteina, ymadrodd sy'n cyfleu'r sefyllfa i'r dim - "ground zero". Yn llythrennol does dim byd ar ôl. Roedd plant yn chwarae yng nghanol y rwbel.
Daeth gwraig ata i oedd am ddangos i mi beth oedd ar ôl o'i chartref. Roedd yn adfail ac yn edrych mewn perygl o ddymchwel unrhyw funud, ond roedd hi'n dal i fyw yno gyda'i saith o blant, heb unman arall i fynd iddo.
Roedd cerdded o gwmpas Jenin yn dorcalonnus. Yn ôl y bobol, roedd y milwyr wedi dewis y rhan honno o'r gwersyll am mai dyma'r rhan fwyaf poblog.
Efallai i'r dystiolaeth gryfaf ddod gan gyfarwyddwr yr ysbyty lleol, Dr Muhammed I Abu-Ghali. Adroddodd hanesion brawychus am noson yr ymosodiad a'i ymdrechion i ymgeleddu'r clwyfedig. Niwed seicolegol Lladdfa oedd hon yn ei farn ef. Doedd neb yn sicr faint gafodd eu lladd ond hyd yn oed heb gannoedd o gyrff, roedd y niwed a wnaed i'r gymuned hon yn gyflafan seicolegol.
Mae gweithred filwrol Israel yn ddiamheuaeth yn ymgais i ddifa'r sefydliadau a luniwyd gan y Palesteiniaid dros ddeng mlynedd. Mae'r holl weinyddiaethau llywodraethol wedi eu difa ac adeiladau'r llywodraeth leol hyd yn oed, fel yr un a welais ym Methlehem, wedi dioddef ymosodiadau a'u fandaleiddio'n helaeth.
Roedd prif swyddfeydd cyrff gwirfoddol wedi cael triniaeth debyg a'u holl gyfrifiaduron a'u cofnodion wedi eu dwyn neu eu difa.
Yr un oedd y stori, wrth reswm, yn Ramallah a Phencadlys Yasser Arafat. I fynd yno roedd rhaid i ni fynd trwy nifer o siecbwyntiau'r fyddin, oedd yn broses hir a diflas.
O dan warchae difrifol Roedd y lleoliad ei hun, lle bu Arafat yn garcharor am dros bum wythnos, o dan warchae difrifol. Roedd ceir a faniau wedi'u chwalu gan danciau ac roedd olion bwledi a ffrwydron tanciau'n gorchuddio'r muriau.
Cawsom gyfarfod ag Yasser Arafat a siaradodd yn fanwl am ddifrifoldeb sefyllfa'r Palestiniaid, y dyhead am heddwch a'i ofn fod trais yn ymchwyddo'n ddireolaeth. Gofynnodd i ni ddod â'r neges yn ôl gyda ni fod angen lluoedd rhyngwladol ar frys i gadw'r heddwch ac y dylid pwyso'n drwm ar yr Unol Daleithiau i roi'r gorau i gefnogi ymyrraeth anghyfreithlon Israel yn nhiroedd y Palestiniaid.
Anodd yw mynegi meddyliau a theimladau mewn geiriau ar ôl profiad mor ddirdynnol. Mae pobol wedi dweud wrthyf fi yn y gorffennol eich bod yn gorfod mynd yno i weld beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. Roedden nhw'n iawn. Rwy i bellach wedi gweld lluoedd difol y meddianwyr gyda fy llygaid fy hun - yn ddifáol i'r Israeliaid yn ogystal ag i'r Palestiniaid.
Cylch gwaed diddiwedd Dwedodd Rami Elhanan, Israeliad y lladdwyd ei ferch gan fomiwr Palesteinaidd, fod trais a dial yn creu cylch gwaed nad yw fyth yn dod i ben a dyna pam mae'n rhaid i'r meddiant orffen. Ymbiliodd ar bawb i siarad â'r pen ac nid â'r galon.
Mae grwpiau o fenywod Israelaidd a Phalestiniaid yn cyd-weithio er mwyn heddwch. Mae dros 1,000 o filwyr Israel yn gwrthod gwasanaethu yn nhiroedd y meddiant am nad ydyn nhw'n credu fod a wnelo hynny ddim â diogelwch Israel ond ei fod yn gyfrwng unswydd i dawelu a gormesu'r Palesteiniaid.
Mae'r mudiad heddwch ar gynnydd, ond nid yw'r gymuned gydwladol yn ymateb. Fel y dwedodd cynghorydd ym Methlehem wrthym ni, mae gwerthoedd yn ffynnu mewn llyfrau ac mewn rhethreg, ond nid yw'r Palestiniaid yn gweld cyfiawnder. A heb gyfiawnder ni fydd heddwch fyth yn bosibl.
Ar ddydd olaf fy ymweliad mi es i Fethlehem ac i'r Offeren yn Eglwys y Preseb i ddathlu diwedd y gwarchae ac ymadawiad y milwyr o'r dref. Roedd yn emosiynol dros ben, yn enwedig pan ganodd clychau'r eglwys am y tro cynta ar ôl bod yn dawel ers chwe wythnos, y tro cynta erioed yn eu hanes.
Roeddwn yn ddiolchgar fod y gwarchae drosodd ac y gallwn innau rannu'r foment hon gyda fy nghymdeithion Palesteinaidd.
|