91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Tirana yn Albania Llewyrch i'm Llwybr
Mawrth 2007
Rai blynyddoedd yn ôl cefais y fraint o ymweld ag Albania lle roedd un o'm ffrindiau yn dysgu darpar offeiriaid yr Eglwys Uniongred ar y pryd. O blith fy amryw brofiadau, y mae un yn enwedig yn sefyll ar fy nghof.

Ychydig amser ar ôl i mi gyrraedd y brifddinas, Tirana, aethom am dro tua chanol y lle. Ychydig ddyddiau ar ôl y Pasg ydoedd, a dyma ni'n edrych i fyny a sylweddoli bod baner anferth yn chwifio uwchben. Yn ffodus, roedd fy nghyfaill yn medru cyfieithu'r geiriau ar y faner. Dyma'r genadwri i bawb a gerddai trwy'r strydoedd hynny: "Yn enw y Crist atgyfodedig, y mae Eglwysi Albania yn dymuno Pasg llawen i chwi oll". Tybed a fuasai'n debyg i ni weld y fath neges uwchben strydoedd Caerdydd eleni?

Yng Nghymru, y mae gennym ryddid crefyddol i wneud ein safbwynt yn glir ynglŷn â natur Cristnogaeth. Nid felly y bu yn Albania am flynyddoedd lawer oherwydd, dan yr arweinwyr comiwnyddol a fu mewn grym am bron hanner canrif, poenydiwyd crefyddwyr o unrhyw fath yn ddidrugaredd. Yn wir, amcangyfrifir bod oddeutu deunaw mil o Gristnogion a Mwslemiaid wedi colli eu bywydau yn yr union un cyfnod. Felly, rhyfedd oedd cael cyfle i fynychu gwasanaeth yn y Gadeirlan yn Tirana ar y Sul a chanfod bod cannoedd, ie cannoedd, o bobl ifanc yn bresennol. Mor wahanol yw ein sefyllfa ni ar y cyfan, onide?

Gallwn fentro dweud bod yr Eglwys yn Albania wedi atgyfodi fel petai o'r meirw. Mae'r gair `Atgyfodiad' yn arwyddocaol iawn yr adeg hon o'r flwyddyn, wrth i Gristnogion baratoi erbyn prif Å´yl ein Ffydd. Ac wrth gyfeirio at brofiad Albania, cwyd cwestiwn anochel - Os na chyfododd Crist, pa reswm y rhoddwn ni am enedigaeth yr Eglwys Gristnogol yn y lle cyntaf? At hyn gellid ychwanegu cwestiwn arall - Sut yr awn ati i esbonio ail enedigaeth yr Eglwys yn Albania?

Mae rhai yn credu bod y gwragedd a ymwelodd â'r bedd ar fore Sul y Pasg wedi breuddwydio yn ofer, neu wedi colli gafael ar eu synnwyr. Mae eraill yn taeru mai gweld drychiolaethau yr oeddent a dim byd mwy. Ond nid dyna'r esboniad a gawn ni yn y Testament Newydd lle mae'r pwyslais ar yr hyn a ddigwyddodd i Iesu ei hun. Bu farw llawer Cristion yn Albania felly, ond ni roddwyd ergyd farwol i'r gred fel y cyfryw.

Dro ar ôl tro, mae nerth y Crist byw wedi trechu, nid yn unig marwolaeth, ond hefyd siniciaeth ac anghrediniaeth. Neges yr Eglwys i'r holl fyd yw hyn: mae Crist yn fyw. O'i Berson y daeth y nerth a gynhaliodd y ffyddloniaid yn Albania ar hyd y blynyddoedd llwm. Mae'r un nerth ar gael i ni yn wyneb difaterwch y Gymru gyfoes hefyd.

Mae'n debyg y bydd rhywrai yn canu'r geiriau canlynol ar fore Sul y Pasg. Yng ngoleuni profiad Albania, onid allwn ni i gyd eu canu yn fwy angerddol fyth, eleni:- Gwelir myrdd yn cilio ymaith
At allorau Duwiau gau;
Cododd Iesu!
I wirionedd gorsedd fydd.

Y Parchedig Jeffrey Gainer


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý