Ar ôl dysgu myfyrwyr am 43 o flynyddoedd, mewn tair Prifysgol - Belfast, Manceinion ac Abertawe, fe ddaeth yr amser i ymddeol. Roedd hi' n bosibl mynd nôl i ddarlithio rhan amser, neu gorffen yn gyfan gwbl. Penderfynais mai cefnu am byth ar fywyd ymhlith efrydwyr o flaen y bwrdd gwyn oedd y dewis iawn. 'Does dim yn well na deffro yn y bore a gwerthfawrogi mai'r unig dasg sydd i' w chyflawni yn ystod y dydd, yw cerdded y chwarter milltir o'r tŷ, i'r Vivian Arms yn Sgeti a chael peint o 'Brains'!
Ond y rheswm sylfaenol am beidio mynd nôl i'r gwaith oedd y dyhead am ddigon o amser a rhyddid i deithio. Ers mynd i'r Ysgol Sul ac ymuno ag Ysgol Hendygwyn, 60 mlynedd yn ôl i'r Gwanwyn hwn, bum yn rhamanteiddio am ardaloedd pellennig y byd. Rhywle draw, draw yn Tseina a thiroedd Japan 'roedd yr Afon Sien yn tarddu ac yn nosbarth daearyddiaeth Dai Bach y clywais am lyn Titicaca yn Peru.
Mae pobl yn awyddus i deithio er mwyn gweld tirluniau gwahanol, profi hinsawdd dieithr, blasu bwyd ecsotig, gweld sut mae pobl estron yn byw, a mwynhau a gwerthfawrogi diwylliannau tylwythau eraill. Ond i mi, mae yna bleser aruthrol hefyd mewn gweld tebygrwydd rhwng tirluniau, bywyd gwyllt a ffordd o fyw y gwledydd yr ymwelaf â hwy ag ardal fy mebyd.
Cefais fy magu uwchben pentref Cwmbach ym mhlwyf Llanwinio. Cwmbach, i mi, yw perl y Deheubarth, ond roedd bois Meidrim yn ein brifo pan yn blant, trwy ddweud mai "twll o le oedd Cwmbach a'r man diwethaf greodd Duw". Rhaid cyfaddef mai braidd yn gyntefig oedd yr amgylchfyd - a buasai cyflwr economi'r ardal y pryd hynny yn cael ei ddisgrifio gan y Cenhedloedd Unedig heddiw fel 'Trydydd Byd' neu hyd yn oed diwedd y Canol Oesoedd. A dyna'r rheswm, wrth gwrs, bod teithio i wledydd dieithr (nifer a'u safon byw a'u ffyniant economaidd yn is na Chymru) yn cynnig cymaint o gymariaethau diddorol.
Y daith ddiwethaf i mi fod arni oedd i ardal fynyddig Gogledd Thailand - nid nepell o'r afon Mekong ar y ffin â Burma. Ffermwyr reis sydd yma ac maent yn ei chael hi'n anodd iawn i sicrhau dau ben llinyn ynghyd. Fel yr oedd amaethwyr Llanwinio yn dibynnu ar y ceffyl yn nhridegau a phedwar-degau'r ganrif ddiwethaf, mae'r tyfwyr reis yn methu gwneud dim heb y byffalo dŵr - a phan mae'r anifail yma'n afiach, mae'n argyfwng o'r radd uchaf. Mae'r incwm yn rhy isel i gynnal yr holl deulu a cheir diboblogi enfawr; y bechgyn (ac yn arbennig y merched) yn gadael a symud i'r trefi.
Am nad oes llawer o ddysg ganddynt, mae gwaith yn brin ac maent yn gweld hi'n anodd iawn cyflawni eu dymuniad, sef anfon arian gartref i gynnal eu teuluoedd.
Profiad unigryw, ar daith arall, oedd aros mewn llety ar lan yr afon Amazon; y ffenestr wely ond deg troedfedd o'r dŵr a bron milltir o un lan i'r llall. Roedd plant ysgol Cwmbach yn medru neidio ar draws y Sien, hyd yn oed pan oedd hi'n gorlifo!
Ond er mai bychain oedd ei maint, nid oedd yn rhy ddi-nod i gael ymweliad gan y crychydd, sef un o'r adar a oedd hefyd yn lletya yn yr Amazon anferth. Cael fy neffro gan froga am hanner awr wedi tri a hwnnw'n crawcian am weddill y nos! Hwylio ar lan yr afon fwdlyd ac ymweld â nifer o bentrefi Indiaidd. Nid oedd trydan na dŵr ffres ganddynt - fel roeddem ni pan yn ifanc, yn gwneud eu gwaith cartref yng ngolau cannwyll a lamp baraffin. Dyna hyfryd oedd eu croeso twymgalon i'r ymwelwyr, gan ganu yn eu hiaith eu hunain a dweud eu henwau. Roeddent yn awyddus i gael ein henwau ni; rhyw Sais yn dweud mai ei enw oedd David - David Beckham, ond ni chafwyd unrhyw ymateb am nad oedd neb wedi clywed am y dyn bach! Efallai y dylwn fod wedi crybwyll mai Shane Williams oeddwn.
Symud i'r de o'r Amazon a chyrraedd Rio de Janeiro - T.H. Parry Williams yn syllu ar y ferch ar y cei, ond roedd fy ngolwg i ar y genethod ar draeth Copacabana, lle mae'r merched prydferthaf yn y byd yn ôl rhai. Ond nid oedd y sylwebyddion hyn wedi mynychu Rali Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ym Mharc Caerfyrddin ym mhumdegau'r ganrif ddiwethaf!
Oherwydd bod fy mab a'm tri o wyrion yn byw yn Washington D.C., rwy'n gymharol gyfarwydd â'r Unol Daleithiau. Yn ystod y dirwasgiad amaethyddol llym, ar ddiwedd y 19eg Ganrif, roedd fferm Penrallt yn rhy fach i gynnal yr holl deulu. Ymfudodd dau frawd i ochr arall Môr yr Iwerydd ac ymgartrefu yno. Fel roedd gweithgaredd economaidd yr Unol Daleithiau yn lledu i'r gorllewin, felly aeth y brodyr i geisio ennill bywoliaeth draw yn y Canolbarth. Mae un ohonynt wedi ei gladdu yn Nhalaith Missouri, mewn mynwent a elwir y `Welsh Cemetery' ym mhentref gyda'r enw arwyddocaol 'Dawn'. Yn ddiweddarach, aeth un o'r disgynyddion a' i deulu o bump o blant, draw i Tseina fel cenhadwr.
Tua dwy flynedd yn ôl bum yn teithio trwy wledydd Dwyrain Ewrop er mwyn gweld sut siâp oedd arnynt ar ôl cwymp Wal Berlin. Cefais fy siomi ar yr ochr orau gan gyflwr deniadol canol nifer o'r trefi a'r dinasoedd, ond roedd tlodi y rhan fwyaf o'r bobl yn achosi pryder mawr. Eto i gyd, roeddent yn ymddangos yn gymharol hapus. Pobl Estonia, Latfia a Lithiwania yn dangos balchder aruthrol yn eu hiaith a'u diwylliant, ar ôl cael rhyddid oddi wrth Rwsia. Roedd miloedd o blant sipsiwn Bwlgaria, Romania ac Albania yn chwarae'n hwylus ac yn creu'r awyrgylch gyffrous a oedd ar gomin Cilgeti 'slawer dydd! Roedd y siwme mewn trên trwy'r gwastadedd gwlyb a chorsiog, rhwng Moscow a St. Petersburg yn f'atgoffa am siwrne ar y cledrau o Gaerfyrddin i Aberystwyth yn y pumdegau.
I ble nesaf? Mae hanner can mlynedd wedi mynd heibio ers i mi gael fy swydd gyntaf fel darlithydd ym Mhrifysgol Queens yn Melffast, Gogledd Iwerddon. Unwaith yn unig y bum nôl yno ers hynny, mewn cynhadledd - ac roeddwn yn clywed y bomiau, tra'n cymdeithasu, un noson. Rwyf am fynd draw i'r dalaith eto eleni. Yn lle cerdded heol fach y Felin o Gwmbach i Letygarn yn 1958, 'roeddwn yn troedio Heol Shankill a Heol y Falls. Yn y cyfamser cafwyd y `trwbwl' dychrynllyd a bydd cerdded drwy heol y ddinas yn 2008 yn llawer mwy arwyddocaol.
Ond nid wyf yn credu y gwnaeth dim o bwys amharu, mewn hanner can mlynedd, ar yr iâr fach yr haf yn heol y Felin.