I ddechrau, dyfynnaf yr hyn a ddywed Kate Roberts am yr amser yma o'r flwyddyn, "Mae rhywbeth bach yn fy nghalon o hyd yn tarddu fel ffynnon i'r dyfodol, y bydd y Nadolig y flwyddyn hon yma eto ar slap a llosgwn y neidr wrth ei safn. Ie, mynd, mynd o hyd a'r cylch yn dod nôl i'w unfan."
Ydy, mae'r Nadolig wrth y drws a finnau ddim yn barod. Yr achwyniad cyffredinol yw bod yr Å´yl wedi mynd yn or-fasnachol. Digon gwir! Gwelir cardiau Nadolig ar werth yn yr Haf ac addurniadau o flaen ein llygaid drwy gydol y flwyddyn. Tybed a yw Santa Clostroffobia wedi cymryd drosodd?
Mae Gŵyl y Nadolig yn werthfawr iawn oblegid gŵyl y teulu yw'r gwir Nadolig. Daw aelodau o'r teulu sydd ar wasgar, yn ôl i' w cartrefi at eu hanwyliaid ond cofier nad yw'r Nadolig yn gyfnod hapus i'r rhai sy'n hiraethu ar ôl aelodau o'r teulu a gollwyd yn ystod y flwyddyn.
Gwell i ni nawr geisio bod yn bositif yn ein myfyrdodau am yr Ŵyl gysegredig hon. Derbyniwn gysur wrth yr adnod sy'n gyfarwydd i ni, "Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd ei unig anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Hyd yn oed yn Stori'r Geni, wrth chwilio am lety, cafodd ei gau allan gan y rhai y daeth Ef i fod yn Waredwr iddynt. Dyna ddechrau'r gamdriniaeth a gafodd y "gŵr gofidus a chynefin a dolur."
Yn anffodus, yn ein dyddiau ni, mae'r byd yn ceisio ei gau allan.
Gadewch i ni fwynhau'r Å´yl yn y ffordd draddodiadol, heb anghofio gwir ystyr y Nadolig, neu fel y dywed yr Hen Ficer Pritchard, Llanymddyfri:
Awn i Fethlem bawb dan ganu,
Neidio, dawnsio a difyrru
I gael gweld ein Prynwr c'redig
Aned heddiw, ddydd Nadolig.
Gwerthfawrogwn y cyfoeth sydd gennym yn emynau a charolau'r Nadolig, ac mae un o eiddo ein chwaer annwyl, Mrs. Alice Evans, Henllan Amgoed yn dehongli'r hyn a geisiaf ei ddweud.
Dyma'r pennill olaf:
Faban Bethlem, maddau inni
Am roi mawl i Ti'n y crud
Heb dy arddel yn Waredwr,
Heb dy ddilyn yn y byd;
O holl roddion Duw i ddynion,
Ti, o Grist yw'r pennaf gaed,
Tyrd o'r newydd i'n calonnau,
Tyrd i ddangos gwerth dy waed.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll.
Ymddangosodd yr erthygl hon gan Denzil Davies, Hebron yn rhifyn Rhagfyr 2005 o bapur bro Y Cardi Bach