Siom fawr i ni fel Eglwys yn Ramoth yw colli gwasanaeth Y Parchg. Tecwyn Ifan a fu' n weinidog rhan amser gyda ni, ers tair blynedd.
Yn ystod yr amser yma, bu hefyd yn drefnydd Menter Iaith Sir Benfro a gwnaeth waith arbennig gyda'r fenter honno.
Er ein tristwch, rydym yn falch fel Eglwys ein bod wedi rhoi'r cyfle iddo ddod nôl i bulpud Ramoth yn 2003. Cafwyd pregethau arbennig ganddo o'r pulpud ac mae wedi datblygu i fod yn bregethwr grymus, gyda gweledigaeth glir ynglŷn â rôl y Cristion yn y ganrif hon. Anodd fydd wynebu'r dyfodol hebddo.
Ymfalchïwn yn y ffaith ei fod yn dychwelyd i'r weinidogaeth lawn ac wedi derbyn swydd Ysgogydd Gweinidogaeth a Chenhadaeth Cymanfa Dinbych, Fflint a Meirion. Mae'r swydd hon yn her i weinidogaeth arbrofol a deinamig. Bydd yn gweithio'n benodol gyda chlwstwr o bedair eglwys yng nghylch Llangernyw, Llanrwst a Llansannan, am gyfnod o bum mlynedd, i feithrin doniau ac i hybu gweinidogaeth yn eu mysg. Bydd yr arbrawf yma a sefydlir yno, yn sail i brosiectau tebyg mewn ardaloedd eraill. Fe fydd Tecwyn Ifan yn cychwyn ar ei waith ym mis Ionawr, 2007.
Dymunwn yn dda iddo yn yr her newydd yma sydd yn ei wynebu, ac i'w briod Rhiannon Ifan, yn eu cartref newydd. Pregethwr, yn anad dim arall, yw Tecwyn Ifan ac yn y pulpud mae ei briod le.
Ar ddiwedd ei oedfa olaf gyda ni yng Nghwmfelin, cafwyd cyfle i dalu teyrnged i Tecwyn a Rhiannon. Yn ystod ei weinidogaeth yn yr ardal, bu'n weithgar iawn gyda'r bobl ifanc a pharatôdd nifer o basiantau arbennig ar wahanol destunau megis 'Gwatemala' a 'Sefyll dros y Gwir'. Cofiwn hefyd am y Pasiant ar hanes Cwmfelin pan ddathlwyd 200 mlwyddiant yr Achos yn Ramoth yn 1993.
Ymddangosodd nifer o CD's o'i eiddo gyda nifer o'r caneuon yn pwysleisio gwirioneddau'r Efengyl, a chymerodd ran mewn llawer o gyngherddau a nosweithiau i dalu teyrnged i gymeriadu'r fro, megis Dil Hafod Ddu, W.R. a Waldo.
Gwelir eisiau Rhiannon hefyd fel athrawes ac arweinydd Parti'r Gromlech. Hi fu' n bennaf gyfrifol am annog yr ardal i groesawu'r Å´yl Gerdd Dant i Hendygwyn yn 1993 (a fu'n llwyddiant ysgubol er yr holl law ). Dymunwn yn dda iddynt ac hefyd i Gwenno a Gwawr, heb anghofio Gruffudd, sy'n aros gyda ni yn y De. Boed i Dduw fendithio eu gwasanaeth yn eu hardal newydd a llwyddo eu hymdrechion.
Yn ystod yr oedfa, cyflwynwyd darn o farddoniaeth i'r Parchg. Tecwyn Ifan, o waith Wil Ifan, y bardd o Gwmbach, dan y teitl 'Yng Nghwmfelin Mynach' gan yr Ysgrifenyddes, Rhoswen Llewellyn (wedi ei brintio a'i fframio). Diolchodd iddo am ei wasanaeth gwerthfawr gan ddymuno' n dda iddo. Cyflwynwyd stôl deir-coes a luniwyd ar gyfer Gŵyl Gerdd Dant 1993, i Rhiannon gan y cyn-ysgrifenyddes Nansi Evans, i'w hatgoffa am ei chyfnod yn yr ardal.
Yna aeth yr aelodau i'r Festri i gael lluniaeth a baratowyd gan y gwragedd - dim te ffarwel ond te dewch nôl yn gloi! Bydd y Sul hwn eto, fel nifer cynt, yn aros ar gof a chadw i'r dyfodol.
EIN GWEINIDOG Y Parchg. Tecwyn Ifan
Canwr glew y Gorllewin, - gweinidog
A'i nodau cynefin,
Pleser pur yw rhannu rhin
Ei alaw yng Nghwmfelin.
Yn obaith i'n cymdeithas - yn Ramoth,
Hwnt i rwymau diflas
Y niwl oer mae wybren las
Annirnad Duw a'i Deyrnas.
Wyn Owens, Mynachlogddu.