91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Killa Jones gyda John Donovan pan enillodd yn Eisteddfod yr Urdd 1988 am adrodd i Ddysgwyr 8 - 10 oed Arloeswr Cerdd Dant
Ionawr 2006
Daeth newyddion trist i fro'r Cardi Bach yn gynnar Ddydd San Steffan, pan fu farw un o gymeriadau mwyaf adnabyddus a phoblogaidd pentref Llanboidy, sef William Killa Jones yn un ar bymtheg a phedwar ugain mlwydd oed.
Gŵr amlddoniog a dreuliodd ei holl fywyd yn Llanboidy oedd Killa, ond ehangodd ei gyfraniad a'i ddy1anwad ymhell tu hwnt i'w filltir sgwâr. Roedd yn saer coed wrth ei alwedigaeth ac yn grefftwr medrus, ond cofir amdano' n bennaf am ei gyfraniad i fyd Cerdd Dant, ac yn y maes hwnnw roedd yn arloeswr.

Nid yw' n ormodiaith i ddweud mai prin iawn oedd unrhyw fath o draddodiad Cerdd Dant yn siroedd y De Orllewin rhyw ddeg a thrigain mlynedd yn ôl ac mae Killa oedd yn bennaf gyfrifol am gyflwyno'r grefft i gylch eang.

Gwnaeth hynny mewn 3 ffordd: (i) ei ganu personol (ii) ei ddarlithoedd (iii) drwy hyfforddi plant a phobl ifainc.

1. Dechreuodd trwy ganu penillion ei hunan ac oherwydd prinder deunydd, bu' n rhaid iddo wneud llawer o ymchwil ar ei ben ei hun. Os bu gŵr erioed yn hunan-ddysgedig, Killa Jones oedd hwnnw. Cofiaf i Eddie Evans a minnau gael sgwrs hir gydag ef pan yn paratoi erthygl arno nôl yn 1983, gan fwynhau gwrando arno'n sôn am ei ymdrechion cynnar.

Dywedodd bod ganddo ddiddordeb mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth yn gynnar iawn yn ei fywyd. Er bod ganddo lais cyfoethog, teimlai nad oedd yn Denor nac yn Fas a phenderfynodd arbrofi ar Gerdd Dant, oherwydd rhoddai'r grefft honno hawl iddo newid cywair i siwtio'i lais ei hun. Mae'n debyg mai yn Eisteddfod Llanboidy y cystadlodd gyntaf, pan oedd John Johns, Llanpumsaint (gynt o Blasybwci, Llanboidy) yn beirniadu. Er iddo wneud ymgais deg, ni chafodd y wobr oherwydd iddo dorri i o reolau pwysig Cerdd Dant trwy ddefnyddio papur.

Aeth ati o ddifrif wedi hynny gan ennill ei wobr gyntaf yng Nghefnpant, gyda'r Parch B.M.Davies (gynt o Ramoth) yn beirniadu. Ar hyd ei oes rhyw bump o weithiau y bu iddo golli mewn tros 90 o Eisteddfodau bach a mawr.

Manteisiodd ar bob cyfle i ddysgu'r grefft gan fynychu nifer fawr ddarlithiau gan arbenigwyr. Diddorol sylwi mai'r un gyntaf oedd gan y Parch. Gwyndaf Evans yng Nghwmfelin Mynach. Un o'i brif anghenion yn y dyddiau cynnar oedd cael gosodiadau. Prynodd lyfrau yn cynnwys gosodiadau parod, fel y rhai gan Haydn Morris, gan eu hastudio a'u canu. Anfonodd at Watcyn o Feirion am un neu ddwy ond oherwydd yr anhawster, penderfynodd i baratoi ei osodiadau eu hunan. Treuliodd oriau yng nghartref Dora Phillips, Bradford House, gyda hithau'n canu'r piano ac yntau'n gosod y gwahanol ddarnau. Dywedodd mai dyna lle y gosododd Salm 23 y mae cymaint o gynulleidfaoedd wedi'i mwynhau.

Yn ogystal ag Eisteddfodau, bu'n canu mewn cyngherddau di-rif. Bu'n aelod o barti Joneses Meidrim am gyfnod ac wedi hynny, ffurfiodd bartneriaeth gyda Morgan Rhys Roberts (ewythr Ryan Davies ac actor, adroddwr a beirniad cenedlaethol), gan gynnal ugeiniau o gyngherddau ar hyd a lled y wlad. Tom Bifan oedd ei delynor cynnar ac wedyn Eirianwen Jones o Login.

2. Yn ei ddarlithiau diddorol i amrywiol sefydliadau, byddai'n dechrau trwy egluro prif bwyntiau'r grefft, gan ganu gwahanol fathau o farddoniaeth a salmau fel enghreifftiau. Roedd hynny'n fwyniant ynddo'i hun ond wedyn caed llawer o ddifyrrwch trwy adael i'r gynulleidfa geisio gosod rhyw ddarn syml gyda'i help ef ac yna ei gyd-ganu.

3. Hyfforddi: Yn ystod traean olaf ei fywyd, lledaenodd dylanwad Killa yn fawr iawn trwy iddo hyfforddi plant a phobl ifainc ac enillodd ddisgyblion lawer iawn o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eisteddfodau'r Urdd yn arbennig.

Rwyf innau' n bersonol, fel llawer arall, yn ddwfn yn ei ddyled am iddo yn gyntaf oll fy nghyflwyno i fyd Cerdd Dant ac yna f' ysbrydoli hyd y blynyddoedd. Diolchaf iddo hefyd am y fraint o gael cyd-hyfforddi a chyd-feirniadu gydag ef.

Dywed Aled Lloyd Davies yn ei lyfr "Canrif o Gân" (sy' n cynnwys llun o Killa ac ychydig o'i hanes), bod y ddolen gyswllt rhwng datgeinydd Cerdd Dant ac adroddwr yn un agos iawn. Naturiol felly oedd hi i Killa ddysgu adrodd a chy-adrodd yn ogystal â Cherdd Dant dros ardal eang. Roedd ganddo 'glust fain' a medrai glywed unrhyw gambwysleisio neu gam-acennu'n union. Roedd yn anghredadwy ar brydiau cymaint y gallai'r cyflwyniad wella wrth ddilyn awgrym neu ddau a gynigiai Killa! Pe bai wedi bod yn fwy ymwthgar, gallai fod wedi ennill enwogrwydd cenedlaethol. Hwrach iddo gael ei eni'n rhy gynnar!

Roedd iddo ddiddordebau lu eraill - yn wir mae'r rhestr bron yn ddi-derfyn. Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, bu'n arweinydd parti 'Llanciau'r Llan' (cyhoeddwyd eu caneuon yn y 'Bibell Glai' T.Elfyn Jones). Er mwyn cael amrywiaeth yn y cyngherddau, prynodd iwcalili ac yn ychwanegol at ganu penillion, bu hefyd yn canu ac iodlan i fiwsig hwnnw!

Roedd yn rhingyll yn yr '91Èȱ¬ Guard' (yn adran 'Signals & Communuication' - cyfle arall iddo ddefnyddio'i glust fain' a bu'n astudio Cymorth Cyntaf. Credai'n gryf mewn bwydydd iachusol a darllenai gylchgronau lu ar y testun. Bu hefyd yn pysgota, yn chwarae snwcer a dilyn pêl droed. Roedd hefyd yn aelod selog o Glwb yr Henoed.

Ni allaf ddewis gwell ffordd i gloi'r erthygl hon - gan fod Killa bellach wedi' n gadael - na thrwy ddyfynnu unwaith eto a rhoi ar gof a chadw, ei eiriau olaf i Eddie a minnau ar ddiwedd ei sgwrs ychydig dros ddwy flynedd ar hugain yn ôl:

"Rhywsut daw rhyw fesur o gysur a boddhad o feddwl fy mod wedi medru cyfrannu rhywbeth bach - gorau a allwn - tuag at lenyddiaeth a chanu traddodiadol y wlad y cefais y fraint o fod yn rhan ohoni."

Cynhaliwyd angladd Killa yn y Triniti, Llanboidy, lle bu' n aelod drwy ei oes, Ddydd Gwener 30 Rhagfyr 2005, o dan arweiniad ei Weinidog, Y Parchedig Jill Hayley Harries gyda Mrs. Merle Evans wrth yr organ.

Yn ei theyrnged gynhwysfawr a theimladwy, dywedodd y Parchedig Jill Hayley Harries y byddai'n beth hyfryd pe gellid croniclo hanes cyfraniad amhrisiadwy Killa Jones i'w fro enedigol a'r ardaloedd eraill y bu mor weithgar ynddynt. Gobeithio bod yr erthygl hon yn cyfrannu ychydig tuag at wireddu'r dymuniad hwnnw.

Haydn Lewis

Dyma englyn a gyfansoddwyd gan Y Parchedig Aled Gwyn:

Am un hoff gwych yw'r coffa - ar orau
Ei werin bu'n gwledda
Adroddwr, cerdddantwr da
Ein coleg ydoedd Killa.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý