91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Meinir Richards, Rhian Mair Lewis a Tudur Dylan Jones. Llun gan S4C Ennill Cân i Gymru 2004
Mawrth 2004
Yn ogystal â'r gyfansoddwraig, Meinir Richards, mae gan berfformwraig cân fuddugol 'Cân i Gymru' 2004 gysylltiadau cryf gyda Hendy-gwyn hefyd.
Dw i'n siŵr bod pawb ohonom wedi cael ein swyno gan ddehongliad Rhian o'r gân 'Y Dagrau Tawel', ac er bod Rhian yn hen gyfarwydd â chanu a pherfformio o flaen cynulleidfaoedd niferus, roedd rhywbeth arbennig iawn am y tro hwn iddi.

"Roedd e'n deimlad swreal iawn", meddai Rhian "achos dwi wedi gwylio'r rhaglen ar y teledu dros y blynyddoedd ond roedd e'n gwbwl wahanol i beth ro'n i wedi disgwyl. Ond roedd e'n buzz mawr i ganu o flaen y gynulledfa hefyd."

Yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd i'r rhan fwyaf o'r perfformwyr yn y gystadleuaeth, roedd Meinir Richards wedi gofyn yn arbennig i Rhian os y byddai'n fodlon canu ei chân hithau. "Fe wnaethon ni recordio fersiwn o'r gân cyn y gystadleuaeth," esbonia Rhian "a phan wnaethon ni glywed ei bod hi wedi mynd trwyddo i'r rowndiau olaf, fe wnaeth Meinir ofyn i fi ei chanu hi yn y gystadleuaeth hefyd."

Dyma ddechrau partneriaeth llwyddiannus, sydd erbyn hyn wedi hudo miloedd o wylwyr 'Cân i Gymru'.

Yn dilyn eu llwyddiant ar y rhaglen, mi fydd Rhian, Meinir a Tudur Dylan Jones nawr yn mynd i gynrychioli Cymru yn yr ŵyl Ban Geltaidd yn Nhralee, Iwerddon fis Ebrill.

Ond mae Rhian yn cyfaddef nad oedd aros am y canlyniad hwnnw yn deimlad cystal â pherfformio. "Roedd e'n horrible"meddai Rhian gan chwerthin. "Ro'n in teimlo'n eithaf sâl wrth ddisgwyl am y canlyniad a gweld y ffigurau'n dod lan ar gyfer pob cân yn unigol!" Ond wedi'r cyfan fe ddaeth rhyddhad mawr, ac aeth Rhian i ddathlu'r fuddugoliaeth mewn steil gyda'i ffrindiau yng Nghaerdydd y noson honno.

Ar hyn o bryd, mae Rhian yn dilyn cwrs Cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ac mae hi wrth ei bodd yn perffeithio ei chrefft o dan arweiniad yr arbenigwyr.

"Dwi'n mwynhau canu pob math o gerddoriaeth i ddweud y gwir, a dwi'n mwynhau'r cwrs yn fawr" meddai Rhian."Ar hyn o bryd, achos 'mod i'n cael fy hyfforddi yn y dull clasurol (gan Beatrice Unsworth) dwi'n gobeithio mynd i wneud cwrs ôl-radd mewn opera yn Llundain ar ôl i fi gwpla yng Nghaerdydd. Ond dwi'n cadw'n opsiynau'n agored!"

Ers ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2002, mae dyddiadur Rhian wedi bod yn llawn o berfformiadau ar lwyfannau ar hyd a lled Cymru. Gydag ymddangosiadau wedi'u cadarnhau ar gyfer rhaglenni teledu fel 'Ma' Ifan 'Ma' a 'Noson Lawen', yn ogystal â pherfformio yng nghynyrchiadau'r coleg, mae cyfnod prysur iawn o'i blaen hi nawr. Ac yn dilyn ei llwyddiant diweddar ar 'Cân i Gymru', dwi'n siŵr y bydd ei dyddiadur yn gorlifo â gwahoddiadau o hyn ymlaen hefyd. Yn sicr, mae galw mawr am lais arbennig Rhian Mair Lewis.

Nid Rhian Mair Lewis oedd yr unig berfformwraig yn 'Cân i Cymru' eleni â chysylltiadau cryf gydag ardal Y Cardi Bach. Mae teulu Catherine Ayers, a ddaeth yn bedwerydd yn y gystadleuaeth gyda'r gân 'Pris Rhyddhad' yn hanu o Login. Fe fyddwch hefyd yn ei nabod hi fel Bethan, y ferch trin gwallt ar y rhaglen 'Darn o Dir'.

Bydd cyfweliad llawn gyda Catherine Ayers yn rhifyn Ebrill o'r Cardi Bach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynnu eich copi!

gan Aled Vaughan, Prosiect Papurau Bro

Buddugoliaeth Chwerw felys Meinir
Buddugoliaeth chwerw felys oedd ennill cystadleuaeth 'Cân i Gymru' i Meinir Richards. Doedd Meinir ddim wedi bwriadu cystadlu yn y gystadleuaeth o gwbl heb sôn am ei hennill. Cyfansoddwyd y gân fuddugol 'Y Dagrau Tawel' fel rhyw fath o therapi i'w helpu ar ôl colli ei gŵr, Elfyn, fu farw o gancr.

Y Prifardd Tudur Dylan Jones ysgrifennodd y geiriau, a hynny ar ôli i Meinir ddanfon neges destun ato yn hwyr un noson yn gofyn a fyddai'n fodlon gwneud hynny. Derbyniodd neges yn ôl bron yn syth, a'r ateb syml "dim problem" a bu sgwrsio mawr rhwng y ddau wrth i Dylan ysgrifennu am brofiadau personol iawn Meinir.

"Roedd Dylan a fi yn yr un coleg ac wedi cadw'n ffrindiau ers hynny" meddai Meinir, sy'n dod yn wreiddiol o Hendy-gwyn ond bellach yn byw yn Llanddarog. "Pan ysgrifennodd e'r geirie doedd dim angen newid yr un sillaf. Ond eistedd ar dop y piano fu'r geirie am sbel gan eu bod mor agos i'r asgwrn.

Athrawes Cerddoriaeth oedd Meinir am 15 mlynedd yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Tregwyr ond dyw gadael yr alwedigaeth honno ddim wedi golygu troi cefn ar gerddoriaeth iddi o gwbl. "Mae'n rhaid i fi gael fy ffics cerddorol" meddai Meinir," ac rwy'n cael hynny trwy weithio yn yr Ysgol Sul, potsian ar y piano adref ac arwain y côr ieuenctid yn y pentref."

Mae'n amlwg bod Meinir wrth ei bodd yn gwneud hyn, ac mae'n hapus iawn â'r trefniant o ddod ynghyd yn achlysurol fel côr a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau amrywiol. Yn dilyn un o'r cyngherddau hynny y gofynnodd Meinir i Rhian Mair Lewis, oedd yn unawdydd y noson honno, os y byddai'n fodlon recordio 'Y Dagrau Tawel' ar gyfer 'Cân i Gymru'. Roedd Rhian yn fwy na pharod i wneud hynny.

O ran cymryd rhan yn y gystadleuaeth, roedd popeth ar y funud ddiwethaf meddai Meinir. "Fe orffennais i'r gân ym mis Medi, a dim ond rhyw wythnos cyn y dyddiad cau aethom ni ati i'w recordio."

Aeth llond bws o drigolion Llanddarog a Chaerfyrddin i Gasnewydd ar gyfer y rhaglen fyw a ddarlledwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi. Roeddent wedi mynd i gefnogi Meinir, Dylan a Rhian, ac yn eu plith roedd Saran ac Elan, dwy ferch fach Meinir. Ni all Meinir ddiolch digon i'r rhai a'i chefnogodd ac sydd yn dal i'w chefnogi ers colli ei gŵr. Nawr, bydd ei hatgofion yn fyw am byth ar gyfer y cenedlaethau i ddod yng ngeiriau tyner Dylan, ac alaw gain Meinir yn 'Y Dagrau Tawel'.

Heledd ap Gwynfor Prosiect Papurau Bro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý