Yn actores a chantores, mae Catherine yn wyneb cyfarwydd iawn ar y sgrin fach erbyn hyn, a thra bod y gwaith teledu yn llifo'n gyson, mae hi hefyd yn astudio'n ddiwyd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd! Bu'n cystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni, ac yn fwy diweddar mae hi wedi bod yn perfformio yn y sioe Guys and Dolls gyda'r coleg. Fel llawer o berfformwyr, yn yr Eisteddfod y cafodd Catherine y cyfle cyntaf i ddangos ei doniau. Yr Eisteddfod ywr rheswm dw in gwneud beth dwin gwneud nawr meddai, gan ychwanegu pa mor siomedig y mae nad yw hi'n gallu cystadlu mwyach oherwydd pwysau gwaith coleg. Tra yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa fe gafodd Catherine glyweliad ar gyfer Pobol y Cwm ac ennill rhan y ferch ddrygionus, Angie yn y gyfres sebon. "Roedd Angie yn gymeriad brill i chwarae" meddai Catherine gan chwerthin. "Wnes i ei mwynhau hi lot fawr achos ei bod hi mor ddrwg. A na, dyw hi'n ddim byd tebyg i fi! Wel ... gobeithio ddim!!" Wrth bori trwy hen ddyddiaduron yn ddiweddar, sylweddolodd Catherine ei bod hi wedi ysgrifennu mewn dyddiadur pan yn wyth oed mai ei huchelgais oedd bod ar Pobol y Cwm. Doedd dim rhaid aros sbel cyn i'r freuddwyd gael ei gwireddu - a hithau yn dal yn ddisgybl ysgol! Yn ddiweddar mae Catherine wedi bod yn actio rhan Bethan yn y ddrama deledu boblogaidd Darn o Dir - drama wahanol iawn i Pobol y Cwm ond un mae Catherine yn mwynhau yr un faint. "Ma fe'n tipyn mwy relaxed meddai Catherine. "Ro'n i yn yr ysgol gyda nifer o'r actorion eraill yn y gyfres ac ro'n i'n nabod sawl un o'r lleill cyn dechrau ffilmio, felly roedd hynny'n beth braf ac mae'n neis gweithio gyda chast ifanc hefyd." Wrth edrych ar y cymeriadau Angie a Bethan mae dolen gyswllt ddiddorol yn eu huno - mae'r ddwy wedi cael perthynas gyda chymeriadau gwrywaidd tipyn yn hŷn na nhw! Mentrais ofyn ai cyd-ddigwyddiad yw hyn neu rhywbeth roedd Catherine yn edrych amdano yn y sgript! "Nagyw, ddim o gwbwl meddai gan chwerthin yn uchel. "Mae'n beth od, achos pan o'n i'n ffilmio'r golygfeydd gyda Geraint Griffiths (yn Darn o Dir) fe wnaeth e ddweud wrtha i bod ei ferch ifanca e yn hŷn na fi! Â hithau newydd orffen chwaraer brif rhan yng nghynhyrchiad y coleg o Guys and Dolls, beth yw cynlluniau Catherine ar gyfer y dyfodol? Fe fyddwn nin dechre ffilmior drydedd gyfres o Darn o Dir ddiwedd mis Ebrill" meddai. "Hoffen i aros a chael gwaith yng Nghymru wedyn, ond hoffen i berfformio yn y West End hefyd. Gewn ni weld beth ddaw! " Ac os byddai Catherine yn cael cynnig un rhan ddelfrydol, mae hi'n sicr beth fyddai'r rhan honno. "Dwi wastad wedi eisiau chwarae rhan Dorothy yn y Wizard of Oz, meddai Catherine, cyn ychwanegu "neu Bond Girl, yn enwedig os taw Ioan Gruffudd yw James Bond!" Gyda'r holl sibrydion bod Ioan yn cael ei ystyried am y rhan, fe wnawn ni groesi ein bysedd y bydd Catherine hefyd yn cael gwireddu breuddwyd arall - bod yn Bond Girl gyntaf Sir Gâr! Aled Vaughan, Prosiect Papurau Bro
|