A chyn pen winc, roedd y ddau wedi prynu'r lle ac erbyn y Nadolig 'roedd y Lamb wedi ailagor a'r cam cyntaf wedi ei gwpla.
Braf iawn yw gweld pâr ifanc Cymraeg eu hiaith, o'r ardal yn bwrw ati i ddechrau busnes a mentro arni yn llawn brwdfrydedd.
Mae ganddynt dair merch fach, sef Hana sy'n 5 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Brynach, Cadi sy'n 18 mis oed a Mali sy'n 3 mis.
Dywedodd Richard fod tipyn o waith adnewyddu mewn mannau o'r dafarn ond mae'n abl iawn i wneud y gwaith ei hunan, gydag ychydig o help gan ffrindiau.
Mae Non a Richard yn bendant eu bod am gadw cymeriad y lle a'r hen awyrgylch gartrefol fel tafarn deuluol, a'r Gymraeg yn sylfaen i'r holl weithgareddau a fydd yn cymryd lle.
Mae'r ystafell fwyta bron yn barod a bydd yn agor yn swyddogol yn y dyfodol agos - er dywedodd deryn bach wrtho i bod 16 o'r teulu wedi mwynhau cinio Nadolig da iawn yno eisoes.
Trwy lwc mae gan Richard a Non deuluoedd a fydd yn gefn iddynt wrth sefydlu'r busnes.
Mae Angela, mam Richard yn edrych mlân i gael dechrau cwcan i'r cwsmeriaid - bwyd traddodiadol blasus wedi ei goginio'n dda.
Maent wedi cael rhai syniadau diddorol yn barod am enwau'r bwydydd. Beth am Noson Gyrri Myrri; Pwdin Angel; Bytis Beti, Pids Piccadilly a Cawl Coedllys.
|