Ysgol Henllan Amgoed 1835 - 2004 Dathlu Addysg yn Henllan Amgoed Dydd Sadwrn Gorffennaf l0fed cynhaliwyd prynhawn o ddathlu dros 160 o flynyddoedd o addysg yn Ysgol Henllan Amgoed. Mynychwyd yr achlysur gan dyrfa gref o gyn aelodau o staff a chyn ddisgyblion ynghyd â ffrindiau'r ysgol i fwynhau cyfle i gymdeithasu, cofio ac ymweld â'r adeilad.Bu disgyblion presennol yn cymeryd rhan gyda'r babanod yn sôn am beth oeddent yn hoffi am yr ysgol a'r adran iau yn mynd yn ôl â ni i 1881 i gyfarfod â rhai o gymeriadau'r ardal megis David Phillips, Gosen ynghyd â John Samson- y "pupil teacher" - un a ddaeth yn brifathro ar yr ysgol yn ddiweddarach. Paratowyd cacen y dathlu gan Wendy, un o gyn ddisgyblion yr ysgol ac fe'i torrwyd gan Lloyd Jackson, disgybl ifancaf yr ysgol a Mrs Eluned Thomas, un o'r cyn ddisgyblion hynaf. Yna cafwyd cyfle i gymdeithasu edrych ar y casgliad helaeth o hen luniau oedd yn dyddio o 1905 - 2004. Diwrnod i'w gofio yn wir! Ysgol Llanboidy 1863 - 2004 Dathliad Ysgol Llanboidy Bu Ysgol Llanboidy yn dathlu ei bodolaeth ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 3ydd. Cyn i bawb ymgynnull yn Neuadd y Farchnad, dadorchuddiwyd plac ar far yr ysgol newydd, sy'n dangos yr enw newydd, sef Ysgol Bro-Brynach. Yn y Neuadd cafwyd rhaglen amrywiol o eitemau ac anerchiadau o dan arweinyddiaeth Mr. John Gibbin, fel a ganlyn: Anerchiad a chroeso gan Mr. Ken Kendall (Cadeirydd y Llywodraethwyr). Sioe arbennig iawn gan blant yr ysgol, "Trechu Pob Twyll" a'r gynulleidfa wrth ei bodd. Hanes yr Ysgol gan Mrs. Norah Heseltine. Deuawd gan Gwenllian Young a Megan Bentley. Parti unsain a ddaeth yn 3ydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Grŵp Offerynnol disgyblion Blwyddyn 3. Cân yr Ysgol gan ddisgyblion hen a newydd. Araith gan Mr. Huw Watkins (ymgynghorydd Cynradd yr Awdurdod Addysg).Araith gan Brifathrawes yr ysgol, Mrs. Ceirios Jenner. Hefyd, darllenodd englyn o waith Wyn Owens, Mynachlogddu. Yn ystod y dydd, torrwyd cacen y dathlu (o waith Marian Anthony) gan Mr. Killa Jones, un o gyn ddisgyblion Ysgol Llanboidy. Cafodd pawb gyfle i gymdeithasu a hel atgofion am y dyddiau fu dros gwpaned o de a danteithion. Diwrnod o dristwch a llawenydd, gyda'r gobeithion yn uchel wrth ddechrau pennod newydd yn yr ardal, yn Ysgol Bro Brynach. Mwy am hanes y dathlu, atgofion a cherdd gan Alice Evans (Richards) am Ysgol Henllan Amgoed yn rhifyn mis Gorffennaf o'r Cardi Bach.
|