Hwyrach bod rhesymau digon dilys am gau'r ysgolion, ond mae'r golled i'r ardal wledig hon yn aruthrol. Heb ysgol nid oes calon yn y gymuned.
Yn y lle cyntaf, ysgolion Categori A oedd y rhai hyn - ysgolion Cymraeg eu hiaith a'u ethos. Dysgodd mewnfudwyr yr iaith, ac roedd eu rhieni'n falch o'u camp. Cafodd plant bach y cyfle i gael eu haddysg yn eu cynefin heb orfod teithio milltiroedd i gyrraedd yr ysgol.
Dechreuodd y dirywiad yng nghyfnod Maggie Thatcher pan gafodd rhieni'r hawl i ddewis unrhyw ysgol, beth bynnag fo'i bellter, yn lle mynychu'r ysgol yn eu talgylch.
Cred rhai nad oedd ysgolion bach y wlad yn medru cyflawni gofynion y Cwricwlwm. Eto, pan oedd yr ysgolion bach yn cael arolwg, roedden nhw'n derbyn canmoliaeth uchel iawn. Plant o ysgolion bach oedd Prif fechgyn a Phrif ferched yr Ysgolion Uwchradd yn aml iawn - plant â stamp eu milltir sgwâr arnyn nhw, a chynnyrch rhyw ysgol fach ddiarffordd yw'r rhan fwyaf o'n beirdd a'n llenorion cyfoes.
Beth ddaw o'r adeiladau hardd yma yng nghanol ein pentrefi? Pan gafodd Ysgol Ffynnonwen ei chau yn y 1970au prynwyd yr adeilad gan y gymuned leol, a thrwy ymdrech aruthrol y trigolion, mae'r lle yn Ganolfan i'r ardal ac yn dal i ffynnu.
Mae un ysgol yn y fro yn dal i ymladd am ei heinioes sef Ysgol Henllan Amgoed. Pob dymuniad da iddyn nhw yn eu hymdrech, os mai dyna yw dymuniad y gymuned.
|