Diolch i bawb am fy nghefnogi yn ystod Cwpan y Byd Rygbi Cyffwrdd 2007 yn Stellenbosch De Affrica. Yn lle prydferth a chyfeillgar, cefais amser fy mywyd yno yn cystadlu - ond roedd hi'n llawer rhy dwym!
Roedd hi'n gyfnod nerfus iawn i mi i fod yn chwarae wrth ymyl athletwyr profiadol a medrus ar frig y gêm a minnau mor ddibrofiad. Ond roedd chwarae yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia yn brofiad wna i byth anghofio. Gyda thair o ferched Rygbi Cyffwrdd Awstralia wedi eu henwebu am wobr 'Sports Personality 2005-6' Awstralia a Bow de la Cruize yn ennill y wobr 'Aboriginal Sports Woman of 2006' roedd fy nhasg yn teimlo'n anferth!
Y targed a osodwyd i ni'r merched oedd curo tri thîm sef yr Alban, Japan a Lloegr. Mi wnaethon ni'n rhannol gyrraedd y nod, er i ni guro Singapore a cholli i Loegr ar ôl gêm galed a ninnau ar y blaen 2-0 hanner amser. Rhaid canmol canolwraig Lloegr Emma Black a wnaeth dderbyn tlws chwaraewraig y twrnamaint am sgorio cais da ym munudau olaf y gêm i'n curo ni 3-2.
Cawsom grasfa ffyrnig gan Seland Newydd yn y Rownderi Chwarter a cholli 12-0 (un pwynt am bob cais!) a rhoddwyd crasfa debyg iddynt hwythau gan Awstralia yn y rownd derfynol - 15-7. Roedd yn braf cael diwrnod olaf y Bencampwriaeth i eistedd yn y dorf yn gwylio'r gêm wych hon sy'n dal yn ddieithr iawn i lawer ond yn cael ei chwarae a sgiliau medrus anhygoel.
Mae nifer o ffactorau yn rhwystro Cymru rhag medru cystadlu'n llawn a thimoedd megis Awstralia. Er bod gennym ddigon o dalent, mae datblygu a defnyddio'r dalent yn dasg enfawr i Gymru a nifer o gampau lleiafrifol eraill mae'n siŵr. Yn gyntaf nid yw'r hysbysebu yn ddigonol ac felly mae'r gêm yn dal yn ddieithr i nifer fawr o bobl. Roedd hi'n newydd i mi tan y blynyddoedd diwethaf, a minnau wedi bod yn astudio Chwaraeon yn y Brifysgol yng Nghaerdydd ers chwe blynedd! Mae diffyg nawdd a chyllid yn factor elfennol a chredaf yn gryf bod ganddi fwy o werth a'i bod yn haeddu mwy o statws na nifer o gampau sy'n cael sylw heddiw.
Oherwydd natur y gêm mae'n darparu cyfleoedd gwych ar gyfer cymdeithasu a chael hwyl. Mae hi'n gêm ddigyswllt y gallwch ei chwarae o oedran ifanc hyd eich bod yn hŷn. Mae hyn yn bwysig gan ystyried gofidiau'r genedl am ordewdra a'r pwysau sydd ar y system iechyd, sy'n gwario miloedd yn trin pobl sy'n dioddef o glefydau a allai gael eu lleihau drwy gynyddu lefelau ffitrwydd pobl a chadw'n heini.
Caiff y gêm ei chyflwyno fwy a mwy yn yr ysgolion uwchradd a chynradd heddiw. Am ei bod yn gêm ddigyswllt gall merched a bechgyn o bob oed ei chwarae'n gymysg. Mae'n gêm wych i ddatblygu sgiliau trin a thrafod pêl, gwaith tîm ac mae'n grêt i ddatblygu ffitrwydd.
Fel y soniais yn gynharach mae'r gêm yn israddol i rygbi cynghrair ac undeb gan nad yw hi efallai'n rhan o'n traddodiad a'n diwylliant ni fel cenedl. Felly nid yw hi mor boblogaidd na deniadol, nid yn unig o ran gwylwyr a chefnogwyr, ond hefyd o ran cael chwaraewyr i ymrwymo i'r gêm yn hytrach na'i defnyddio fel modd o gynnal lefelau ffitrwydd dros dymor yr haf yn unig. Mae'n rhaid codi statws y gêm os yw hi am gael ei hystyried o ddifrif yng Nghymru. Mae modelau rôl yn brin ar gyfer plant ifanc - nid yw'r wasg yn gohebu am y gêm, nid yw'r cyfryngau yn darlledu gemau na'r papurau newyddion yn adrodd yr hanes. Does dim enwogrwydd i'r chwaraewyr ac yn sicr dim gyrfa.
Yn wahanol iawn, yn Awstralia a Seland Newydd mae'r gêm yn gyfartal â rygbi undeb ac yn yr un modd mae nofio a phêl-rwyd yn llewyrchus sef rhai o brif gampau'r wlad. Heb os nac oni bai, mae cefnogaeth y llywodraeth yn enfawr. Er hyn mae 'na sôn am gyflwyno rygbi cyffwrdd yn y gemau Olympaidd yn y dyfodol a hefyd gemau'r Gymanwlad gan ei bod hi'n gêm lle nad oes adnoddau drud soffistigedig. Chwe chwaraewr yn unig sydd mewn tîm ac felly mae carfan o 15 yn ddigonol i faesu tîm ac felly mae hyn yn fanteisiol i weledydd bach a gwledydd llai datblygol.
Roedd gan Awstralia a Seland Newydd dîm o 'wyddonwyr chwaraeon' yn gofalu amdanynt yn y twrnamaint, seicolegwyr yn edrych ar ôl materion meddyliol, hyfforddwyr ffitrwydd, ymosod ac amddiffyn arbenigol a rheolwr oedd wedi trefnu paratoadau trylwyr cyn y gemau drwy deithio drwy Awstralia a'r Ynysoedd Tawel. Roedd hefyd ffisiotherapydd yn edrych ar ôl y corff a thrin anafiadau a chyhyrau blinedig.
Roedd y cynorthwyon ergonomig megis sba, bathau iâ wrth ochr y cae chwarae yn syth at ddefnydd y chwaraewyr ar ôl y gêm er mwyn trin unrhyw anaf, hybu ymadfer cyhyrau blinedig a gewynnau poenus ac roedd diodydd isotonig a hypertonig mewn rhewgell wrth ymyl y cae. Roedd siacedi i oeri'r corff tra roeddent yn y bocs sybs yn aros eu tro ac roedd y defnydd o ddulliau recordio technolegol a strategaethau nodiant yn ystod pob gêm er mwyn analeiddio a pharatoi ar gyfer y gêm nesaf yn anghredadwy! Pob agwedd o'r gêm yn cael y sylw gorau ac yn gweithio mewn cytgord i sicrhau perfformiad optimaidd. Felly rwyf yn ddigon hapus gyda fy ymdrechion i wrth gystadlu yn eu herbyn heb fod angen dim mwy na penbac, lucozade sport a chefnogaeth leol!
Hoffwn ddiolch eto i bawb am eu cyfraniadau tuag at y gost enfawr o gael y cyfle i gynrychioli Cymru yn Ne Affrica. Edrychaf ymlaen yn fawr nawr at y Gemau Ewropeaidd ym Mharis yn Haf 2008.
Caryl James