'Roedd rhai o swyddogion y papur bro wedi gwneud ymdrech i sicrhau cyngerdd ynghyd â thynnu'r Raffl er mwyn ceisio denu mwy o bobl i ddod i'r noson. Siomedig iawn oedd y nifer a ddaeth ac y mae'n debyg na chynhelir cyngerdd eto a bydd yn rhaid cael rhyw ffordd arall i ddenu cynulleidfa. Yn bersonol 'roeddwn yn teimlo'n flin iawn dros yr artistiaid lleol a oedd wedi dod yn rhad ac wedi rhoi o'u hamser i ddod i gefnogi y Cardi Bach. 'Rwy'n cydnabod bod llawer iawn ohonoch yn ein cefnogi trwy ymuno â Chlwb 200 ac yr ydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr, ond dylem i gyd geisio gadael ein cartrefi clyd a'r hen focs yna er mwyn cael gweld a chlywed adloniant llawer gwell, a hynny yn fyw. Mae'n ofid arnaf ddweud hyn, ond os na wnawn ddechrau cefnogi gweithgareddau Cymraeg yn ein hardaloedd yn fuan, yna mewn ychydig flynyddoedd ni fydd dim ar gael, a ni fydd yn cwyno fwyaf wedyn fod y sefyllfa mor wael. I ddychwelyd at y noson, cafwyd eitemau ardderchog gan grŵp newydd o ardal y Preseli sef Garej Dolwen. Gyda llaw byddant yn cymeryd rhan gyda chân a ysgrifennwyd ganddynt i gystadleuaeth Cân i Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi. Llongyfarchiadau mawr a dymuniadau da iddynt a chofiwch fotio drostynt. (Nodyn golygyddol - Cân y grŵp hwn oedd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni.) Cafwyd eitemau hefyd yn y cyngerdd gan Clive Edwards, Beti a Siân, a Tecwyn Ifan , ac yn ôl eu harfer 'roeddynt i gyd ar eu gorau, gyda Roy Llewellyn yn cadw'r noson yn ddifyr gyda'i storïau amrywiol. O ia - rhaid peidio anghofio yr eitem arbennig pan ddaeth Huw ymlaen i helpu Beti a Sian fel cefndir i Clive. Diolch yn fawr i bob un o'r artistiaid am eu gwasanaeth. Gallaf eich sicrhau fy mod yn bersonol wedi mwynhau pob eiliad o'r cyngerdd. Hoffwn ddiolch i Ray ugh am y gwaith aruthrol y mae wedi ei gyflawni yn ei blwyddyn gyntaf fel trefnydd y Clwb 200. Cafodd dros 900 o aelodau ac mae hynny yn dipyn o gamp. Llongyfarchiadau i bawb a enillodd wobr yn y Raffl Fawr ac 'rwy'n hyderu y bydd pawb yn ymuno yn fuan eto er mwyn ceisio ennill y flwyddyn hon. Mae thestr o'r enillwyr i'w gweld yn rhifyn Chwefror 2005 o'r Cardi Bach. Gair gan y Golygydd: John Arfon Jones.
|