Siams Dafi Tymawr Pentregalar, "Oracl ei Ardal" yn ôl y Parchedig J. Lloyd James (Clwydwenfro). Wedi ei eni a'i fagu yn Penlanfach, derbyniodd ychydig o addysg yn ysgol Parchedig John Griffiths yng Nghlandŵr, a chan iddo gael ei freintio â chyfran helaeth o synnwyr cyffredin, medrai ddadansoddi a phwyso a mesur ei wybodaeth er ffurfio barn wastad, doeth a chyfrifol yn hwyrach yn ei fywyd. Bu ei wasanaeth a'i ddoethineb i'w gyd-ddyn ac i'w ardal yn amhrisiadwy. Ar ôl priodi symudodd i fyw i Tymawr ym Mhentregalar, felly priodol iawn oedd cael cofeb iddo gyferbyn â'i hen gartref ym Mhentregalar.
Croesawyd pawb i'r seremoni gan Mr Seiriol Davies (cadeirydd "Cymdeithas Siams Dafi") trwy ddyfynnu darn o 'Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru 1873.' "Roedd Siams Dafi yn ddyn o alluoedd cryfion iawn ac yn berchen ar wybodaeth gwleidyddol a chyfreithiol yn ogystal ag ysgrythurol, ac roedd ganddo ddawn arbennig i weddïo, gyda gweddi pwrpasol at bob achlysur".
Yna darllenwyd rhan o'r ysgrythur a gweddi fer gan y Parchedig T.Howell Mudd a rhoddwyd yr emyn 'Melys ydyw cofio'r tadau' o waith y Parchedig D.J.Davies Capel Als, gŵr a anwyd ac a fagwyd ym Mhentregalar (nid yr un cyfnod â Siams Dafi) allan gan y Ficer, y Parchedig Roger Thomas.
Cafwyd gair gan y Cynghorydd Mr Lyn Davies wrth gyflwyno Mrs Mona Williams i ddadorchuddio'r garreg. Mae Mona yn ddisgynnydd i Siams Dafi ac wedi treulio ei hieuenctid yn Tymawr, a Phentregalar, ac roedd y gwaith ar y garreg, a gafwyd ar dir Tymawr wedi ei wneud gan fab Mona sef Mr Gilbert Williams San Clêr. Ar ôl y dadorchuddio cafwyd gair byr gan y canlynol - Mr Bill Davies, Mrs T.Mair Davies, Mr Wyn Owen, Mr Cenwyn Edwards, Mr Gwyndaf Thomas a Mrs Ray Pugh. Cyflwynwyd blodau i Mrs Mona Williams gan Mrs Mair Roche, ac i Mrs Janet Rees Tymawr gan Mrs Margaret Owen.
Croesawyd pawb i Dymawr am luniaeth ysgafn a chlonc gan Mrs Janet Rees. Daeth y seremoni i ben trwy gyd ganu emyn a thraddodwyd bendith gan Parchedig Howell Mudd. Bu'r cyfeilio ar gerddoriaeth yng nghofal Mrs Mair Roche a Mrs June Parry-Jones, a'r uchelseinydd gan Mr David Rees.
Diolch i Mr Seiriol Davies am y weledigaeth o goffau Siams Dafi ac i bawb am yr ymdrech a wnaeth y diwrnod mor llwyddiannus, ac yn arbennig i deulu Tymawr am agor eu cartref ac am eu croeso ar wledd oeddynt wedi paratoi ar ein cyfer, a thrwy hynny y cymdeithasu a fu ar ôl y seremoni.
Os am rhagor o hanes Siams Dafi , y mae llyfryn ar gael, trwy gysylltu â Mair ar 01994 419455 / 07967130965.
|